Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

duol yr oedd clochydd Llanbeblig yn wrthwynebol i'w frodyr ef fyned i Llan- wnda, a defnyddiodd ystryw i geisio eu rhwystro. Yr amser hwnnw yr oedd pant isel yn Ffrwd Cae Du, a phontbren i hwyl- uso teithwyr, tra y croesai cerbydau trwy ganol y ffrwd. Gan y byddai pobl Llan- beblig yn gorfod teithio cyn dydd i'r ply- gain, trodd y clochydd y bompren a'i phen i lawr, gan ddisgwyl i'r bobl ddisgyn i'r llaid islaw. Clywodd William Bifan am y tro, a chan ei fod yn eiddigeddus o glod plygain eglwys ei blwyf ei hun, tuchanodd i'r hen glochydd, gan ddechreu fel hyn.- "Hen glochydd Llanbeblig Wnaeth dro melldigedig, Troi'r pompren o chwithig, Aniddig y nôd Gan ddisgwyl yn drwstan Rhôi llawer eu pawan Ar genllaw y pompran A chwympo yn gelain i'r gwaelod." Yr oedd Dafydd Ddu Eryri yn myned heibio i Landwrog, a daeth i gyfarfydd- iad a William Bifan, yr hwn a'i cyfarchai, Dafydd brydydd, sy' dan b'rwydydd, Yn chwilio am Ie i roi gwê'n y gwydd." Yr oedd Dafydd yn ddyn ieuanc ar y pryd, ac yn wehydd wrth ei alwedigaeth, ac ystyriai ei hun yn rhy ieuanc i ateb William Bifan yn ol. Dywedir gan rai o'r teulu ei fod wedi cyfansoddi cân weddol hir ar y Golyg- feydd o ben y Wyddfa," ac adroddir y llinellau hyn fel rhan o honi,- "Y Wyddfa wen urddas Tŵr uchaf y deyrnas A luniwyd o bwrpas Gan addas Dduw nen I ddangos rhyfeddod Gwaith bysedd y Drindod Lle disgyn maith gafod yn gyfan." Ond y mae Carneddog yn sicrhau mai nid eiddo William Bifan ydyw yr uchod, ond yn hytrach eiddo Hywel Gruffydd Bedd- gelert.* Gan fod Carneddog yn dweyd, rhaid boddloni mai nid "hen fardd y Gadlys yw awdwr y llinellau. Priodolir y llinellau canlynol i Wil- liam Bifan fel y dull y gofynnodd i'r gof wneyd modrwy mochyn iddo,- Sioni'r Gôf, a'i synwyr gwych, A wnei di'n fedrus fodrwy fach Y mae W. D. Beddgelert" yn holi yn eu cylch yng Nghymrtj II. 204. I 'flawen gwb a'i flew yn goch O frid ei hun yn frawd i hwch?" Canodd lawer yn ystod ei oes- `' llawer pill a rhai hymns" meddai wyr iddo, ac yr oedd ei holl ganeuon wedi eu hysgrifennu mewn dau lyfr, ac arfaethasai eu cyhoeddi, ond mi fuo farw y tymor hwnnw," meddai ein hysbysydd, ac ni chariwyd allan ei fwriad. Yr oedd y llyfrau hyn ym meddiant y teulu flynydd- oedd yn ol, ond benthyciwyd hwynt gan ryw gydnabod ac nis dychwelwyd hwynt. Pe cawsid gafael arnynt, y mae'n debygol y gellid cael goleuni gwell ar weithiau William Bifan a'n galluogai i farnu yn iawn ei safle ym myd Awen. Y mae beddrod y teulu yn gorwedd ar gwr gogleddol eglwys y plwyf, Llan- wnda. Y mae tri o'r plant wedi eu claddu o flaen eu rhieni, ac y mae cofnodiad o honynt ar y cerrig. Yn ymyl y mae a ganlyn yn gerfiedig ar un o'r cerrig,- Hear lieth the body of ELIN, tle wife of William Evans, who departed this life the 27th of December, 1787. Aged 30.* Also the Body of the said WILLIAM Evans, late of Gadlys, who departed this life the 6th of April, 1793, Aged 63. Darfu dydd y Prydydd parodawl Nodwyd a thorwyd ei daith ddaearawl, Y Bedd unig-er y bu ddoniawl, Parth y nos yw'r lle perthynasawl, Ac odid y cudd y gedawl-o'r byd Hur y gwyryd ùr mwy rhagorawl. Nid oes awgrym ar y feddfaen pwy yw awdwr y toddaid; y mae y gynghanedd yn rhagorol, ond y mae y synwyr tua'r diweda yn dra chuddiedig oddiwrthym. Gan nad oedd y deffroad crefyddol wedi cyffroi llawer ar y rhan hon o Gymru yn oes William Bifan, gellir cymeryd yn ganiataol mai Eglwyswr ydoedd ef. Clyw- som, fodd bynnag, ei fod yn mynychu capel Bryn'rodyn, ond y mae gennym am- heuaeth ar hyn, gan mai yn bur ddi- weddar ar ei oes ef y dechreuwyd yr achos ym Mryn'rodyn. Yn ol yr uchod, yr oedd gwraig William Bifan wedi ei geni yn 1757, tra yr oedd merch iddi yn 01 y beddfaen wedi ei geni yn 1762. Gan hynny tybiaf mai 50 ddylasai y 30 fod.