Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"William Bifan, druan Sydd wedi colli'i facsan, Yn chwilio am dani, ers mwy nag awr, Ym mharlwr mawr Bodadan." Rhag iddo yntau gael ei wneyd yn wrthrych pill, diangodd gwr y ty i'w wely yn ddioed. Y mae rhai pethau yn peri i ni dybio fod y ffurf hon ar yr hanes yn anghywir, oherwydd mab Bodaden oedd William Bifan, ac nis gallai felly garu merch Bod- aden. O'r braidd hefyd y buasai yn treulio awr o amser i chwilio am ei facsen mewn parlwr. Dyma'r dull arall o osod y rhigwm,- William Bifan druan Sydd wedi colli'i facsan, Yn chwilio am cani ers mwy nag awr, Yn Nhalwrn mawr Bodadan," a dywedir mai pan gartref ym Modaden yn ddyn ieuanc y desgrifiai ei deimladau yn y geiriau uchod. Ond beth yw Talwrn ? Fel y gwyr pobl yr ardal, y mae darn o dir Bodaden yn agos i gwr deheuol y fferm yn cael ei adnabod fel y Talwrn (Talwyn yr Arch, yn ol Glasynys), ac â'r Talwrn hwn y cysylltir y geiriau uchod, ac os nad oedd mor anhawdd i golli bacsen ynddo a pharlwr mawr Bodaden," yr oedd yn llawer mwy anhawdd ei chanfod wedi ei cholli. Yng nghyflawnder yr amser priododd William Bifan a merch Garth y Gro (Garth y Glo ar lafar), fferm yn ymyl y Gadlys, ac aeth y ddau i fyw i'r Gadlys, ac mwyach fel William Bifan y Gadlys yr adweinir y gwr, ac yno y trig ei wehelyth hyd y dydd hwn. Yn ol tystiolaeth ei wyr, llwyddodd yn bur dda yn y Gadlys, a daeth i amgylchiadau pur gysurus. Adroddir fod William Bifan, pan yn y Gadlys, yn dwyn baich o eithin ar ei gefn ar hyd y llwybr sydd yn rhedeg rhwng y Gadlys a'r Cefn. Wrth ddod dros ryw gamfa anhwylus, syrthiodd ac anafodd ei hun. Troes at y garreg oddiar ba un y syrthiodd, a dywedodd,- Y gafled pe cawn gyfle, Y trwyn llwyd, fe'i trown o'i lle." Dro arall yr oedd yn pasio i'r mynydd trwy dir Caerodyn, pan oedd y pladurwyr wrthi'n torrir Werglodd Gudyn. Troes yr ymddiddan rhwng William Bifan a hwynt am y min oedd ar eu pladur- iau, a chwynai rhai oherwydd diffyg llymder min. Wrth fyned ymaith dy- wedai William Bifan,- "Mae llawer math o erfyn I'w gael ar Werglodd Gudyn. Ond torrir heddyw, gwneir yn wir, Rydau ar dir Caerodyn." Yn amser y cynhauaf yd un flwyddyn yr oedd yn myned heibio Rhedynog Felen. Yr oedd arwyddion gwlaw yn dod yn fwy amlwg bob munud, a phawb yn gwneyd ei oreu i gael yr yd i ddiddos- rwydd, heb bryderu nemawr am ddestlus- rwydd y dâs. Wrth weled William Bifan yn dynesu gwnaethpwyd ymdrech fawr i'w threínuso a'i thacluso, rhag iddo ei go- ganu. Deallodd yr hen brydydd eu cyn- llun. ac ar ei ddyfodiad atynt, adroddai wrthynt,­ Diolchwch i'r Arglwydd am roi i chwi ýd, Ond mae gennych gyrnen yr hylla'n y byd Rhowch gyflog i rywun a'i taflo i lawr, Maen wrthun i'w gwelea ar fin y ffordd fawr. Unwaith yr oedd Evan Williams y Minffordd mewn angen am esgidiau, ac yr oedd y crydd a breswyliai yng Nglan y Rhyd yn ymarhous iawn o'u gwneyd. Galwai Evan Williams yn fynych yn y Gadlys wrth fyned i ymofyn ei esgidiau, ac adroddai ei gwyn i William Bifan. Rhyw ddydd cafodd Evan ei esgidiau, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid galw yn y Gadlys i'w dangos, ac i ddadgan bodd- had o'u caffael. Yna adroddodd William Bifan wrtho,- Evan, yn gyfan i'w gofio,-gafodd Y gofid oddiarno, Yng Nglan y Rhyd, bid y bo, Ddwy esgid yn ddi-osgo." Y mae yr hanes canlynol yn cael ei adrodd. Cedwid, meddir, Eisteddfod neu Gwrdd Beirdd ym Metws Garmon un- waith. Yr oedd yn y Gadlys ar y pryd wâs o duedd farddonol, a chymellodd hwn ei feistr i fyned gydag ef i'r cyfarfod. Yr oeddynt, er eu holl redeg, lawer ar ol, ac edliwiwyd hynny iddynt, pan ddywedai William Bifan,— Mi gerddais, rhedais rydau,-heb gwyn- Heb ganfod y llwybrau, [fan, Heb amheu mwy nad yma mae Bwrdd odiaeth y beirddiadau." Yr adeg honno yr oeddis arferol a chynnal plygain yn eglwys Llanwnda foreu Nadolig, ac un tro yr oedd pobl Llan- beblig i gymeryd rhan yn y plygain yn Llanwnda. Oherwydd rhesymau neill-