Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Gymenadau Llanwnda. I. WILLIAM BIFAN Y GADLYS. MAE enw William Bifan yn awr yn bur anadnabyddus i fwyafrif y trigolion yng nghymydogaeth y Gadlys, ond ymddengys fod pawb yn y cwmpasoedd yn gwybod am William Bifan yn ystod ei oes, ac am flynyddoedd wedi hynny. Ffermdy yw y Uadlys ym mhlwyf Llanwnda, oddeutu tair milltir i'r deheu o dref Caernarfon. Saif ar dipyn o godiad tir, a chredir ei bod un adeg yn orsaf fil- wrol; ac yn gyffredin, esbonnir yr enw fel "Llys y Gad." Y mae olion hen am- ddiffynfa i'w gweled yn y fan yn awr. Yn y Gadlys, yn ystod rhan fawr o'r ddeunawfed ganrif, yr oedd William Bifan yn byw. Enw ei dad oedd Evan Williams, a phreswyliai hwn ym Modaden, fferm arall ychydig yn nes i Gaernarfon na'r Gadlys. Ar garreg fedd ym mynwent Llanwnda, ceir yr arysgrif hon,- Here lyeth the body of EvAN WILLIAMS, departed this life the 4th of April, 1768. Aged 68. Ganwyd William Bifan yn y flwyddyn 1730, ac yn ol dull yr oes honno, enwyd ef yn William Evans, am mai Evan Williams oedd enw ei dad. Ond er mai William Evans y gelwir ef ar gofnodion y fynwent, William Bifan" oedd ei enw ar lafar gwlad. Nis gwn am nemawr droion rhamantus yn ei fywyd, ond yn ol y straeon a adroddir am dano, gellir dweyd iddo arwain bywyd amaethyddol, tebyg i amaethwyr yn gyff- redin yn ei oes a'i amser ef-prynnu a gwerthu, hau a medi, yfed a gloddesta. Ond yn ychwanegol at hyn prydyddai ef bron yn barhaus; ac â'i brydyddiaeth yn fwyaf neillduol y mae a wnelom ni yn yr ysgrif hon. I farnu William Bifan yn iawn, rhaid ystyried sefyllfa ac arferion yr oes yr oedd yn byw ynddi. Y pryd hynny, yr oedd diota yn beth cyffredin, prydyddion a rhigymwyr yn fawr eu parch a'u bri, ym- laddwyr pen ffeiriau yn arwyr, ac adrodd- wyr hanesion difyrrus a doniol yn helaeth eu croesaw. O ran dim yn hynod yn Wil- liam Bifan fel amaethwr, ni buasai gen- nyf unpeth i'w ddweyd am dano, ac y mae ei hawl i sylw yn yr oes hon yn dibynnu ar ei fedr i brydyddu. Prin hwyrach y gellir ei alw yn fardd, er y tybiwn ei fod wedi ymgeisio at ganu yn draethodol-ar ffurf cywyddau a phryddestau. Pe c'yfan- soddasai rywbeth o natur felly, o'r braidd y buasid yn cael ei waith yng nghof y werin, yn enwedig pe buasai y farddon- iaeth heb ei chyhoeddi. Ond pan fyddai rhigwm rhwydd a phert yn eiddo pry- dydd, gellid clywed hwnnw gan y naill genhedlaeth ar ol y llall. Felly nid digon oystiolaeth gwerin i benderfynu pa un ai rhigymwr ai bardd oedd y sawl a elwid gan y bobl yn fardd da. Drachefn gall- asai diftyg addysg gadw llawer awen gyf- oethog rhag dadblygu a chynyrchu cein- ion cân. Yr oedd W. Bifan wedi derbyn rhyw gymaint o addysg, gan ei fod yn cael ei ystyried yn ysgrifennwr destlus yr adeg honno; ond gan bwy, ac ym mha Ie yr addysgwyd ef nis gallwn ddweyd. Yn wyneb yr ychydig o'i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, gogan- ydd medrus, a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai y desgrifiad cywiraf o hono hwyr- ach. Fel pob rhigymwr arall, byddai y bobl yn ofalus rhag ei gyffroi, rhag gwneuthur o hono yn ei ddigter gerdd i'w tuchanu. Y mae pedair llinell o eiddo William Bifan yn cael eu hadrodd yn lled fynych gan ambell i hen frodor yn yr ardal, ond y mae dwy ffurf ar yr hanes sydd yn esbonio achlysuriad y llinellau hyn. Y ffurf fwyaf rhamantus ar yr ystori ydyw yr un ganlynol. Dywedir fod William Bifan yn caru merch Bodaden, a'i fod un noswaith wedi myned i weled ei fun, ar ol i'r teulu ymneillduo dros y nos. Gan fod ei facsiau yn wlybion gan y gwlith, ac yn gymhorth i wneyd mwy o dwrf nag oedd ddymunol, tynnodd hwynt, a dododd hwy o'r neilldu. Pan aeth i'w hymofyn dra- chefn methodd a dod o. hyd iddynt, ac oherwydd y twrw cysylltiedig â hynny, cododd tad y fun, a gofynnodd yn awdur- dodol pwy oedd yno, pan atebodd William Bifan,­