Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mai 1889 cyhoeddwyd ei thraethawd "Merched a Gwleidyddiaeth", a ddisgrifiwyd fel traethawd gwobryedig er na nodwyd yma mha gystadleuaeth y bu'n fuddugol. Dengys y traethawd ei bod hi'n gyfarwydd ag ymgyrchoedd seneddol y cyfnod. Rhaid oedd i ferched ufuddhau i ddeddfau, pam felly na chaent lais yn eu ffurfio, goyfynnai wrth gyflwyno 'i phwnc, ac ai ymlaen i annog merched Cymru i gymryd diddordeb, i gynorthwyo (y Rhyddfrydwyr wrth gwrs) mewn etholiadau ac i gymryd eu lie fel dinasyddion cyflawn gan eu bod yn rhannu beichiau ariannol y deyrnas. Yn y traethawd yma ceir yr unig gyfeiriad at ddeddf a fu'n fodd i ddihuno ymwybyddiaeth merched yn Lloegr sef Deddf Clefydau Heintus 1869: deddf a roddai'r hawl i'r heddlu archwilio merched os amheuid eu bod yn buteiniaid, ac a amddiffynai godineb gwr. Parodd y mesur hwn i ferched y dosbarth uchaf yn Lloegr ddyfod i wrthdrawiad a dynion eu dosbarth eu hunain. Arweinwyd ymgyrch i ddiddymu'r ddeddf gan Josephine Butler o Lerpwl yn y 1870au. Yn 61 Mair Maelor dyma un o'r deddfau annhecaf a ffurfiwyd mewn unrhyw wlad erioed, yr oedd ei bodolaeth yn ddadl gref dros annog merched i ddylanwadu ar ddeddwriaeth. Dyma'r unig erthygl drwy gydol yr ugain mlynedd a grybwyllai anfanteision merched o flaen y gyfraith. Ni ddaethpwyd ar draws cyfeiriadau at ddeddwriaeth eiddo neu ysgariad, er y bu newidiadau i ddeddf Ysgariad 1857 ym 1858, 1884 a 1896 a gynhyrfodd y dyfroedd yn Lloegr. Pwnc arall na chafodd sylw o gwbl yn Y Frythones oed Undebau Llafur Benywaidd, dyma faes ymchwil i rywun yn y blynddoedd nesaf. Ond fel y dangoswyd, yr oedd ymgyrchoedd Seneddol yn dechrau cael peth dylanwad yng Nghymru. Ym 1891, o dan yr olygyddiaeth newydd ymddangosodd erthygl arall ar 'Ferched a Gwleidyddiaeth', y tro hwn yn ddi-enw felly mae'n bosib mai'r golygyddion oedd yn gyfrifol.32 Amlinellwyd y dadleuon o blaid ac yn erbyn ehangu'r etholfraint i ferched gan ddod i'r casgliad fod dadleuon yr Arglwyddes Sandhurst o blaid rhoddi'r bleidlais i ferched yn un o'r pethau gorau i'w darllen, ac annog ymroddiad egniol merched Cymru mewn gwleidyddiaeth. Ac mae'n debyg fod testun ehangu'r etholfraint i ferched yn fodd o fath i fesur ymwybyddiaeth ar fater hawliau merched, er mai ymgyrch y dosbarthiadau canol ac uchaf ydoedd. Daethpwyd a'r pwnc o flaen y Senedd yn gyson rhwng 1884 a 1887 a chafwyd ail-ddarlleniad wrth ymdrin a mesur yr etholfraint yn 1885. Ar wahan i erthyglau Mair Maelor y Rhyddfrydreg o Wrecsam, tawedog iawn oedd cylchgronau merched yng Nghymru. Wrth daro'i threm dros y flwyddyn 1885 croesawai Cranogwen y mesur i ehangu'r etholfraint ond ni soniodd am yr ymgais i gael pleidlais i ferched. Eto, mae'n bosib mai barn Crangowen ei hun a geir yn Awst 1886 gan fod erthygl dienw'n defnyddio'r "royal we" fel y gwnai Cranogwen bob amser. Dywed yr erthygl, "Y mater o ryddfeiniad merched sydd yn dyfod yn fwy poblogaidd, ac er nad y'm ein hunain wedi arfer ei ddadleu, nac yn dewis ceisio gwneud hynny, gwyddwn nad yw ond cwestiwn o amser hyd nes iddo ddyfod yn ffaith. I lawer mae yn rhywbeth gwrthwyneb i'r hyn sydd yn bur fenywaidd, ond ymhen can mlynedd, diau gennym yr edrychir yn 61 ar y syniadau hyn gyda thosturi Cam yn ddiau a