(Ni chyflwynir y gân hon i'r Pwyllgorau Addysg nac i'r Royal Commission on Population,' a alwodd blant yn "gaffae/iad") CATHL I'R PLANT BACH. WELE'R rhai nid adwaenant wae Er bod y ddaear fel y mae, Ond byw pob ennyd o bob dydd Yn ffyrnig-lawen, ffyrnig-rydd, A bod i ddyn, yn niwl y llawr, Yn olwg ar y Glorian fawr. Y rhain yw'r rhai a roed gan Dduw Yn oleuadau i ddynol-ryw, Yn deryll dorf o wlad i wlad Ac ar eu talcen enw eu Tad, Gan gadw o hyd eu nefol wawl A drysu deisyfiadau'r Diawl. Ysed y byd gan lafn, gan lid, Rhannu mae'r rhain eu dwyfol wrid. Rhued y drwg o barth i barth, Codant fel engyl dros y gwarth, Yn ddiogel, ddedwydd, ddigrif lu Wrth orffwys yn y Cariad Cry'. Y bychan hwn, mor egwan yw, Ond wele, yn ôl rhagluniaeth Dduw, Gannoedd o gaethion yn ddi-goll I weini ar ei reidiau oll, Ac yntau'n toddi, fore a hwyr, Y galon faen yn galon gwyr. 7 CYF. XXIX. RHIF 3, HYDREF, 1950