Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bennod "Cyffes Abdw Mohammad" i weled, nid yn unig beth o natur y Mahometaniad hwnnw, ond hefyd, yn ddiau, y cydymdeimlad ar ran yr awdur a ddenodd y fath gyffes ganddo. Erys yn y cof, ymhlith eraiU, y disgrifiadau o arch aur Twt'anchamen yn Amgueddfa Cairo, o deml Horws a'r hebog cysegredig yn hofran uwch ei phen, o holl wlad liwgar yr Aifft. Y mae'n drueni bod salwch cynhyrchiad y darluniau yn gwanhau effaith y disgrifiadau yn hytrach na'i chynorthwyo ond y mae techneg ddisgrifiadol yr awdur, gyda chydweithrediad medrus y cyfieithydd, yn ddigon ynddi ei hun. Bydd machlud ysblennydd y bennod XXI yn gofiadwy, nid yn unig i'r un a'i gwelodd, ond hefyd i'r darllenydd. Ond nid hyn, er cystal yw, sydd yn gyfrifol am ddiddordeb neilltuol y llyfr, ond y golygfeydd o fywyd cyffredinol yr hen Aifft, yn arbennig yn y cyfnodau Macedonaidd, Rhufeinig a Byzantinaidd. Nid yn beiriannol, yn ôl dull Baedeker, y daw'r hynafiaeth i mewn, ond gyda'r naturioldeb mwyaf troir meddwl yr awdur at y gwahanol gasgliadau o bapyri gan wahanol brofiad- au ei daith-ymweliad ag adfeilion hen dref, golwg frysiog o hirbell ar bentref a fu gynt yn enwog, y bargeinio dwyreiniol am bapyri gyda gwerthwyr preifat. I fywiocáu ei ddarluniau rhydd yr awdur ddyfyniadau helaeth (wedi eu cyfieithu) o'r papyri eu hunain, ac er mwyn y sawl a fynno, wedi profi blas y testunau amryfal hyn, eu hastudio yn fanylach, y mae nodiadau eglurhaol a llyfryddiaeth fer ond pwrpasol. A pheth iachus i'r lleygwr, sydd yn arfer chwilio am wybodaeth mewn crynodebau a llawlyfrau poblogaidd, yw cael adnabod nid yn unig ffrwythau ymchwil ond yr ymchwilio ei hun sydd wrth gefn y llawlyfrau cael gweled yr hynafiaethydd wrth ei waith yn cloddio, yn darganfod y papyri neu yn eu prynu nid heb fargeinio dygn ar y ddwy ochr, yn cael cur pen wrth asio'r darnau drylliog a rhwygedig at ei gilydd, ac yn ail- greu fesul tipyn gyfnod o hanes hir a phwysig, ei gyflwr economaidd a chym- deithasoI a helyntion ei fywyd personol beunyddiol. Digon hwyrach fydd hyn i ddangos bod yr awdur wedi cyrraedd y nod a osododd iddo ei hun-"cyfleu rhywfaint o'm diddordeb yn y pwnc a'r hen wareiddiad diflanedig y treuliais y rhan fwyaf o'm bywyd swyddogol yn ei gwmni." Y mae ei lyfr yn haeddu creu diddordeb poblogaidd yn y pwnc y mae ef yn feistr arno. Bangor. D. M. JONES. Celfyddyd a Chrefft yng Nghymru gan Llewelyn ap Gwyn. Cyfres Pobun, Gwasg y Brython. CROESO i lyfr sy'n ychwanegiad gwerthfawr at y nifer fechan iawn yn Gymraeg o weithiau ar Gelfyddyd a Chrefft. Bu golygydd Cyfres Pobun yn ffodus i gael Llewelyn ab Gwyn i ysgrifennu'r gyfrol fechan ond cynhwysfawr hon. Daw i'r golwg drwyddi ei ddiddordeb dwfn ymhob agwedd ar y celfyddydau, gwybodaeth eang o'u hanes ac i bob ymddangosiad ymarferiad profiadol o