Skip to main content

TUDUR PENLLYN. 11. GEILW Tudur ar wraig arall hefyd i gymodi mewn achos o gynnen, sef Mallt ferch Hywel Sele. Codasai cweryl rhwng Hywel ap Gruffudd ap Siencyn o Lwydiarth, ei mab hi, a Hywel mab Gruffudd Derwas, ei chefnder, ac ymddengys i'r cweryl beri anghydfod rhwng mab a thad hefyd. Defnyddiodd y bardd ei awen er sefydlu heddwch, ac erfynnir ar y fam hefyd i ddefnyddio'i dawn i beri cytundeb rhyngthynt. Y gwragedd a fyddai'n gofalu na byddai tlawd a gwan mewn eisiau, ac o law'r arglwyddesau yn aml y derbyniai'r beirdd roddion o aur ac arian, a gynau a dilladau. Dyry'r bardd glod i hyswïaeth ddiwall y goreuon ohonynt, ac yn eu mysg nid oedd neb yn ei farn ef cystal â Mallt o Lwydiarth. Hyhi oedd "paradwys Powys" a "duwies yr arglwyddesau." Gellir casglu hefyd oddiwrth weithiau Tudur Penllyn yr âi gwragedd yr uchelwyr gyda'u gwyr ar bererindod, megis yr oedd gwragedd yn y cwmni y ceir ei hanes yn mynd ar bererindod i Gaer- gaint gan Chaucer yn y Canterbury Tales. Âi llawer Cymraes gyda'i gwr a'i theulu, yn ddiau, at y delwau a oedd o fewn eu cyrraedd. O gymdogaeth y bardd cyrchent yn wyr ac yn wragedd i Landderfel i offrymu i ddelw Derfel Gadarn. O barthau eraill aent i'r Wyddgrug i blygu glin o flaen y Ddelw Fyw, ac i Gaer i addoli'r Grog yno. A theithiai llawer cyn belled â Thy Ddewi, megis ag y gwnaeth Mallt o Lwydiarth Powys. Dengys ei marwnad iddi hi farw'n fuan ar ôl dychwelyd o'i phererindod F'arglwyddes feistres oedd fyw-a difalch Yn dyfod o Fynyw Merch Hywel oruchel ryw, A mud heb ddywedud ydyw. Ceir manylion mewn rhai cywyddau am arferion a choelion y wlad ynglyn ag afiechydon. Pan oedd y bardd ei hun mewn afiechyd, gweddïa ar Fair Forwyn am wellhad