Skip to main content

TUDUR PENLLYN. MÂN uchelwyr oedd beirdd y bymthegfed ganrif gan mwyaf,- gwyr yn byw ar eu treftadaeth fechan eu hunain. I'r dosbarth yma y perthynai Rhys Goch Eryri, Dafydd ab Edmwnd, Gutun Owain, a Dafydd Llwyd 0 Fathafarn. Gwyr eglwysig oedd eraill, megis Meredydd ap Rhys 0 Riwabon ac yr oedd eraill, megis Guto'r Glyn, o radd is, heb allu ymfalchïo mewn achres na thiroedd 0 gwbl. I ddosbarth y mân uchelwyr y perthynai Tudur Penllyn. Gwr oedd a allai olrhain ei dras am genedlaethau, yn ôl i fonedd yn Edeirnion a Llyn. Ceir ei ach mewn amryw o'r llawysgrifau,- Peniarth 125, 139, 176 Gwrecsam I, a Stowe 669. Tudur Penllyn ab Ieuan ab Iorwerth Foel ydoedd,­-0nd yn ôl un llawysgrif, Tudur Penllyn ap Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth Foel,-ac yn ôl i Feirion Goch, uchelwr 0 Edeirnion, sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llyn, a chyndad i rai 0 deuluoedd enwog y cantref hwnnw. Ar wahân i'r ach, ychydig sy'n hysbys am deulu'r bardd. Diau bod yn eu meddiant ryw gymaint o dir, ond sicr mai bychan oedd y dreftadaeth erbyn ei ddyddiau ef gan gymaint y rhannu a fu arni o'i throsglwyddo 0 genhedlaeth i genhedlaeth yn ôl y defodau Cymreig. Ni wyddys ym mha le yn union y cartrefent. Nid oes gennym brawf i'r gangen yma o'r teulu fyw yn Sir Gaernarfon 0 gwbl, er y dywed Gweirydd ap Rhys, ar sail y geiriau "Wyf 0 ynys Eifionydd" mewn cywydd a dybiai ef ei fod yn waith y bardd, mai 0 Eifionydd yr han- oedd Tudur. Ond yn ôl tystiolaeth mwyafrif mawr y llawysgrifau nid Tudur a'i piau, ond yn hytrach ei fab Ieuan. Ac nid yw'r geiriau yn profi hanfod o'r awdur 0 Eifionydd, canys llefaru y mae'r prydydd yn enw'r uchelwr y gofynnai am gleddyf trosto, sef Ifan ap Robert ap Meredydd o'r Gesail Gyfarch yn Eifionydd Ifan, ydwyf yn waywdwn, Ap Robert Hir, bar brau twn A Chai Hir gyda chwi, bydd, Wyf o ynys Eifionydd. Dull o ymadrodd oedd yn gyffredin oedd hwn, a cheir enghraifft arall ohono gan Uto'r Glyn yn ei gywydd gweddi ar y Grog 0 Gaer. (Gweler G.GI. cx.)