Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLENOR YMSON YNGHYLCH AMSER. (Ar y gaer uwch Ffynnon Gegin Arthur.) T TON ydyw'r afon, ond nid hwn yw'r dwr, A foddodd Ddafydd Ddu. Mae pont yn awr Lle'r oedd y rhyd a daflodd yr hen wr I'r ffrydlif fach a thragwyddoldeb mawr. Yma bu Arthur, yma bu Arthur dro, Yn torri syched hafddydd ar ryw rawd; Ac odid na ddaeth Gwydion heibio ar ífb: Ni ddaw ddim eto, na Gilfaethwy 'i frawd. Rhyfedd yw ffyrdd y Rhod sy'n pennu tymp I'r ffrwyth a ddisgyn ac i ddyn sydd wêr,- Y chwirligwgan hon a bair na chwymp Oraens y lleuad a grawnsypiau'r sêr. Ow! Fory-a-ddilyn-Heddiw-a-ddilyn-Ddoe: Pa hyd y pery echelydd chwil y sioe ? R. W. PARRY.