Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y cyfarfod nesaf, sef ar Ebrill 5, 1790, "Detholwyd Mr Edwd Charles yn gyfaill o'r Gymdeithas-a thraethodd ddiolch canmoladwy am y cyfryw anrhydedd." John Jones, Glanygors, a Siôn Ceiriog, gallwn feddwl, oedd cyfeillion mwyaf Edward Charles, a chanodd Thomas Jones, y Bardd Cloff, gywydd iddynt hwy ac eraill wedi iddo ddyfod yn rhydd o garchar lle bu yn hir am ddyled." Meddai: Glan Gors, un gloywiawngar sydd Doniol dwf Daniel Dafydd Ac Iorwerth brydferth, y brawd Du ei odlau a didlawd. Tri o wyr ynt, trwy wir ras Dri o Feirdd dewraf urddas; Ysgrifennodd Glanygors ac Edward Charles at ei gilydd amryw o lythyrau diddorol a cherddi doniol iawn, yn enwedig pan fyddai un ohonynt ar dro yng Nghymru. Pan oedd Glanygors adref yng Ngherrig y Drudion yng ngaeaf 1789-90, oherwydd marw ei dad a'i ewythr, fe anfonodd Edward Charles gywydd hiraeth ato. Dyma dri chwpled ohono: Rwy'n ochain o ran achos Gwae o hyn yn nychryn nos: O saled yw fy sylwedd Bron symmyd o'r byd i'r bedd. Yn Llundain mae llawnder Ond heb wên clomen y clêr: Ni allwn ganfod maint cymwynasgarwch Edward Charles nes inni sylweddoli pwysigrwydd amryw o'r llythyrau a ddiogelwyd ganddo. Gwelwn yn rhai ohonynt sut y dechreuodd y Gwyneddigion gynnal eu heisteddfodau yng Nghymru. Thomas Jones, Exciseman, yn Frome, Gwlad yr Haf a gymerai'r clod am beri i'r gymdeithas ymddiddori ynddynt. Meddai, mewn llythyr at Edward Charles yn y flwyddyn 18 10: I have the vanity to say that I was the first Man that thought of reviving the Eisteddfod. Had not the Gwynedd'n granted my