Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

II Heddiw ar drothwy'r ddôr I'r wybr y rhoddir ef; I siawns amheus y môr, A'r ddi-ail-gynnig nef. Pa fore o farrug oer ? Pa dyner hwyr yw hi ? Neu nos pan luchia'r lloer Wreichion y sêr di-ri' ? Ni rydd na haul na sêr Oleuni ar ei lwybr, Cans yn y plygain pêr Y rhoddir ef i'r wybr. Cyn dyfod colofn fwg Y llys i'r awel sorth, I ddwyn yr awr a ddwg Y cigydd tua'r porth. Ac eisoes, fel ystaen Ar y ffurfafen faith, Fe wêl y ffordd o'i flaen A'i dwg i ben ei daith. Ac megis môr o wydr Y bydd y weilgi werdd Cyn tyfu o'i gwta fydr Yn faith, anfarwol gerdd. Pan ddengys haul o'i gell Binaclau'r ynys hon Fel pyramidiau pell Anghyfanedd-dra'r don. Pan gyfyd, megis llef Wedi distawrwydd hir, Mynyddoedd yn y nef, A thros y tonnau, tir.