Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRUDWY BRANWEN. I OHAUL, bydd iddo'n nawdd, Bydd dithau deg, O wynt; A phâr, O fôr, na fawdd Ar ei ddiorffwys hynt. Digrifwas adar byd, Annuwiol yn ei hoen, A than ei asgell glyd Sanctaidd epistol poen. Wrth dân y gegin ddoe Parablu'r olaf waith Yn dlws ar dâl y noe Ei wers mewn estron iaith. Ac wele fysedd bun Ag amal gywrain bwyth Yn rhoddi ei gorff ynglyn Wrth ei alarus lwyth. Gwae'r dwylo gynt fu gain! Gan loes eu trymwaith trist Dolurus ydyw'r rhain, Creithiog fel dwylo Crist. A gwae'r frenhines hon O'i chystudd yn ei chaer A enfyn dros y don Isel ochenaid chwaer,