A'r unrhyw ecstasi sy'n arbenigrwydd ar ei ymdrin â natur. Mae gan Mr. Williams-Parry hawl amgen na hawl eisteddfodol i glodfori prydferthwch y byd. Afrifed y rhigymwyr a gred mai barddoniaeth yw troi catalog garddwr yn gynghanedd. Byddaf yn gwingo bob tro y gwelaf roi Yr Hydref, Y Môr, T Mynydd, etc., yn destunau cystadlu. Tybed nad didwyllach oedd y pynciau a fu mewn bri cyn dyfod arnom y dilyw rhamantus, pynciau megis Ystyriaeth ar oes dyn, neu Tmweliad Siôr â Môn ? Ac onid oedd cynghaneddwyr y ganrif ddiweddaf yn well beirdd na phrydyddion heddyw, eto fe gafwyd ynddynt o dro i dro hiwmor a difyrrwch a giliodd o'n hawdlau ni. Nid catalog blodau a lliwiau a choed yw awdl Yr Haf, a dyma'r unig linellau ynddi sy'n gwbl eisteddfodol: Ond yn ebrwydd fe gwyd y bardd o'r rhestru cyffredin hwn i wir brofiad personol: Fe ŵyr awdur y toddaid hwn mai rhinwedd mewn barddoniaeth yw ei bod yn anthropomorffig. Canys nid yw natur ynddi'i hun nac yn farddonol nac yn anfarddonol. Creadigaeth dyn yw celf- yddyd a barddoniaeth, ac y mae'r gwir fardd yn hunanydd trwyadl. Ei ddarlunio ei hun yn ei holl dymherau a'i nwydau yw ei unig swydd. A phan gymerth Milton fyd a nef ac uffern yn fater cerdd, ni wnaeth ond creu Duw ar ei lun a'i ddelw ei hun, a Satan wrth fodd ei galon. Felly y cân awdur Yr Hafyntan am natur nid yw na môr na mynydd na llwyni namyn cynfasau y paentia fo arnynt ei elwch ei hun a'i alaeth, megis y dengys y llinell hon neu hon o soned ddiweddar Dymor hud a miri haf, Tyrd eto i'r oed ataf, A'th wyddfid, a'th hwyr gwridog, A'th awel chwyth, haul a chôg. A thyrd a'r eneth a'r adar yno, A sawr paradwys hwyr pêr i hudo Hyd ganllaw'r bompren heno bob mwynder; A bwrlwm aber i lamu heibio.* A bwrlwm aber i lamu heibio, Gorfoledd dyfroedd ar fynyddoedd hen,