Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MYNYDD A'R ALLOR, Llydaw, 1911 NI ddygymydd hwyliau'r mynydd, Ar foreddydd or haf rhuddem, A myfyrio chwith a chofio Y croeshoelio uwch Caersalem. Pan ar hafddydd tua rhosydd Noeth y mynydd euthum innau, Pob dewislais daear glywais A gwrandewais gym ei duwiau, A dywedyd, Yn sancteiddfyd Plygain Ynyd plygwn innau, A thrwy'r Grawys yn nifrifddwys Leisiau'r eglwys a haroglau. Pob rhyw grwydrol nwyd ddaearol Ddofai swynol ddefosiynau Lie bai cerddor a Christ mynor A chain allor a chanwyllau. NOS Gatholig y Nadolig Treuliais orig trwy laswyrau Lle'r oedd cerddor a Christ mynor A chain allor a chanwyllau Yr offeren ond cyn gorffen 0 Sagrafen y fras grefydd 'R oedd fy nghalon falch ac estron Hyd ymylon tlawd y moelydd, Hyd fron Cymffyrch yn yr entyrch Bron anhygyrch bryn unigedd, Dim ond cymyl ar fy nghyfyl A rhu megnyl ar y Mignedd Ac yn oriel San' Mihangel, Yn He uchel freuddwyd llachar, Gyda'r cudyll ar cornicyll Hoffais dywyll affwys daear. R. Williams Parry.