CERDDI YMDDIDDAN YNGHYLCH YMFUDO I AWSTRALIA CEISIAIS ddangos mewn man arall mai problemau'r gymdeithas ddiwydiannol yw byrdwn canu'r bardd-lowr ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.1 Tlodi'r gweithwyr, amodau gwaith anfoddhaol a gormes perchnogion y glofeydd a'r gweithfeydd haearn yw prif bwnc ei ganu. Dyna yw thema cerdd George Lewis ('Eiddil Llwyn Celyn'; 1803- 1853) 'Cwyn hen weithiwr tanddaearol' er enghraifft, sy'n gerdd hunangofiannol i raddau helaeth, a'r bardd yn son amdano'n grwt yn gweithio yn un o lofeydd Cwmaman, Sir Gaerfyrddin. Rhestrir yn y gerdd y peryglon y bu'n rhaid i Eiddil Llwyn Celyn eu hwynebu yn y lofa; sonia am y 'cwymp' yr arswydai pob glowr rhagddo, y danchwa a oedd mor gyffredin ym mhyllau'r de, yn ogystal â'r llifogydd. Ac ar wahan i'r amodau gwaith anfoddhaol hyn, yr oedd yn ofynnol i'r glowr frwydro'n ddygn am ei gyflog hefyd, ac 'roedd yn haws gan berchnogion y glofeydd ostwng cyflogau ar adegau o ddirwasgiad yn y diwydiant glo, na'u codi ar adeg o gynnydd. Gormeswyd y gweithwyr gan drefniadau'r truck yn ogystal, sef yr arfer o orfodi'r glowyr a'u teuluoedd i brynu angenrheidiau bywyd, yn fwyd ac yn ddillad, yn siopau'r perchnogion, a'r rheini yn eu tro, yn cadw cost y nwyddau yn 61 o'r gyflog. 'Roedd y math yma o ganu cwyn yn dra chyffredin yng nghymoedd y de drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y gwelir yng ngholofnau barddol y newyddiaduron Cymraeg. Cyfeiriodd Syr Ben Bowen Thomas yntau at nifer o faledi'r cyfnod sy'n perthyn i'r dosbarth hwn o ganu.3 Problemau'r gymdeithas ddiwydiannol felly yw byrdwn y canu hwn, ac o ganlyniad i'r gwelliannau a gafwyd mewn trafnidiaeth ar for a thir yn ystod yr union gyfnod hwn, daeth gwledydd a chyfandiroedd newydd yn atynfa ac yn waredigaeth i nifer o weithwyr Cymru. Bu'r Taleithiau Unedig yn boblogaidd gan Gymry'r ardaloedd gwledig yn ystod hanner cynta'r ganrif, ond gyda datblygu'r meysydd glo carreg yn nhalaith Pennsylvania yn ail hanner y ganrif, tyrrodd glowyr a gweithwyr haeam cymoedd y de i ardaloedd Scranton, Hazleton, Kingston a Wilkes Barre.4 Ychydig o Gymry mewn cymhariaeth a ymfudodd i Awstralia cyn 1850, ond gyda darganfod mwyn copr yn ne'r wlad, ac aur yn nhalaith Victoria ychydig yn ddiweddarach, bu cynnydd sylweddol yn nifer y Cymry a ddewisodd gartrefu ar y cyfandir.5 Arwydd o'r diddordeb cynyddol hwn yn Awstralia ymhlith yr ymfudwyr Cymreig yw'r ddwy gyfrol a gyhoeddwyd i'w cyfarwyddo yn eu hanturiaeth, sef eiddo John Williams ('Glanmor') Awstralia a'r cloddfeydd aur (Dinbych, 1852), a David William Pughe Gwlad yr aur; neu gydymaith yr ymfudwr Cymreig i Australia (Caernarfon, 1852?).