ARFONWYSON UCHELGAIS A SIOM G ANWYD John William Thomas (Arfonwyson) yn y flwyddyn 1805, yn yr Allt Isaf, bwthyn ym mhlwyf Llandegai yn yr hen Sir Gaernarfon, yn fab i William Thomas, llafurwr, a Dorothy ei wraig. Bu farw yn Llundain, yn 35 oed, ar Fawrth 12fed 1840 a'i gladdu ym mynwent Alphage Sant, Greenwich. Cyhoeddwyd cofiant iddo gan ei gyfaill Hugh Tegai (Hugh Hughes, 1805-64) yn Seren Gomer yn 1849; roedd hwn yn seiliedig, yn rhannol, ar atgofion tad Arfonwyson amdano. Ceir hefyd, yn Y Gwyddoniadur (1877), hanes ei fywyd a'i waith gan Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys) un y bu hanes ei fywyd, ar sawl cyfrif, yn debyg i eiddo Thomas.1 Mae nifer o anghysondebau rhwng y ddau fersiwn ond er hyn, at ei gilydd, maent yn cyflwyno inni syniad da am brif fannau bywyd John William Thomas ac am ei yrfa wyddonol. Yn ddeg oed, oherwydd tlodi ei rieni, gorfu iddo adael yr ysgol. Pan oedd yn bedair ar ddeg cafodd swydd yn y chwarel leol, gwaith a'i galluogai i gyfrannu rhywfaint at gyllid y teulu. Yn 61 tystiolaeth ei dad dechreuodd ymddiddori mewn rhifyddeg a materion perthnasol yn ifanc iawn. Yn ddeunaw oed cafodd dri mis o ysgol gan Robert Roberts, Caergybi (awdur Daearyddiaeth (1816)) cyn agor ei ysgol ei hunan yn 1824 yn Nhre-garth ger Bangor. Bu hefyd, am gyfnod, yn ddosbarthwr llyfrau dros lyfrwerthwr o Fiwmaris cyn priodi yn 61 Hugh Tegai ond ar 61 priodi ym marn Gweirydd ap Rhys. Roedd Thomas wedi ymddiddori mewn mathemateg er ei ddyddiau cynnar ac yn ystod y cyfnod y bu'n cadw ysgol y dechreuodd ar ei orchwyl mwyaf uchelgeisiol ei lyfr marw- anedig Elfenau Rhifyddiaeth, y bwriadodd ei gyhoeddi yn nifer o rifynnau. Yn 1826, ac yntau'n 21 oed, priododd a symud i fyw i Fangor. Yn yr un flwyddyn penodwyd mathemategydd 25 oed, George Biddell Airy, yn Athro Mathemateg ym Mhrifysgol Caer-grawnt a dwy flynedd yn ddiweddarach yn Athro Seryddiaeth yn yr un brifysgol. Mae'n amheus a wyddai Thomas am y digwyddiadau hyn ym mhen draw Lloegr ar y pryd; yn sicr, ni allai fod wedi rhagweld y berthynas od a fyddai wedi datblygu rhyngddo ef ac Airy ymhen deuddeng mlynedd. 'Nid yw addysg i gyfrif ynddo ei hun o ddim budd yn y byd, heb ei gymhwyso at bethau yn neillduol' ysgrifennodd yn ei Elfenau (t. 24) egwyddor a fu, am y gweddill o'i oes, yn sylfaenol i'w amryfal weithgareddau. Fel Francis Bacon, nid ystyriai fod gwybodaeth o unrhyw werth oni ellid ei defnyddio i ddibenion ymarferol. Yn ami iawn nodweddir y fath gred gan optimistiaeth ddilyffethair ac yn hanes Thomas roedd y cyfnod cynnar hwn yn amser o ewfforia a brwdfrydedd. Ar gloriau'r Elfenau cyhoeddodd ei fwriad i gyhoeddi dau lyfr arall Dwnwd Cymreig (A Welsh Grammar) a Geiriadur Cymreig, Gwyddonol a Chelfyddydol. Roedd Thomas felly, yn gymharol gynnar yn