Cyhoeddir Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, o da olygyddiaeth Llyfrgellydd. Argreffir ef yng ngwasg breifat y Llyfrgell a chyhoeddir dau rifyn y flwyddyn. Prif bwrpas y Cylchgrawn yw rhoi cyfle i ysgolheigion ymchwil i gyhoeddi erthyglau neu nodiadau byrion wedi'u seilio ar ddefnyddiau a geir yn y Llyfrgell. Dylid cyfeirio pob gohebiaeth at y Llyfrgellydd. Dylid teipio pob cyfraniad ar un ochr y ddalen yn unig, gan ddefnyddio papur maint A4, a gofod dwbl a chan adael ymyl llydan. Defnyddier dyfynodau sengl ac eithrio pan geir dyfyniad y tu mewn i ddyfyniad, pryd y dylid defnyddio dyfynodau dwbl. Os yw'r dyfyniad yn un hir dylid ei roi mewn paragraff ar wahan a'i indentio, ac nid oes angen dyfynodau. Nid oes angen dyfynodau wrth ddyfynnu barddoniaeth. Dylid cyfeirio at ffynonellau yn 61 y dull a welir isod. Llyfr R. T. Jenkins, Y Ffordd yng Nghymru (Wrecsam, 1933), 65. G. J. Williams, lolo Morganwg, 1 (Caerdydd, 1956), 160. Erthygl D. Gwenallt Jones, 'Nofelau cylchgronol Daniel Owen', Lien Cymru, 4 (1956), 1-14. Rhifolion Wrth gyfeirio at rifau tudalen, dyddiadau, ac yn y blaen, dylid defnyddio cyn lleied o rifau ag sy'n bosibl, e.e. 30-1,42-3,132-5,1841-5,1960-1. Yr unig eithriad yw'r rhifau 10-19 ym mhob cant, e.e. 10-11, 16-18, 112-14, 315-16. Traethawd ymchwil heb ei gyhoeddi Thomas Parry, 'Bywyd a gwaith y Dr. Sion Dafydd Rhys' (Prifysgol Cymru traethawd MA 1929), 125-8. Llawysgrif cyfeiriad cyntaf Wrth gyfeirio at lawysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol nid oes angen cynnwys Aberystwyth yn y cyfeiriad fel sy'n arferol. Y mae'n bwysig nodi pa un ai rhif tudalen neu folio y cyfeirir ato. Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Llsgr. Penrhos 12, t. 28. ond Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. Peniarth 49, f. 22. ac yna Penrhos 12, t. 28. Peniarth 49, f. 22.