EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERDYDD, 1899 Er cyflawnder, dylid nodi i awdl i Gladstone gael ei chyhoeddi'n llyfryn yn 1899. Roedd yr awdl hon yn rhan o gynnyrch cystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y flwyddyn honno, eisteddfod a gynhaliwyd mewn pafiliwn pren anferth ar safle presennol Neuadd y Ddinas ym Mharc Cathays. Roedd Eisteddfod 1899 yn un o bwys yn hanes yr Orsedd. Yn y flwyddyn honno y cyflwynwyd iddi rai o eitemau amlycaf ei regalia y Corn Hirlas, y Cleddyf Mawr a Baner yr Orsedd. Ond yn achos seremoniau'r coroni a'r cadeirio, blwyddyn i'w hanghofio oedd 1899 ar sawl ystyr. Dim ond chwe ymgeisydd oedd am y gadair, a neb ohonynt yn deilwng. Y beirniaid oedd Dyfed, Pedrog, Isaled, Elfed a Cheulanydd, a'u barn unfryd yn annibynnol ar ei gilydd (yn 61 adroddiad y Western Mail) oedd: 'All the productions were commonplace and devoid of that poetic charm which ought to characterise the prize poems of the National Eisteddfod' (Western Mail, 21 Gorffennaf 1899, t. 6). Beirniadwyd y pwyllgor yn llym am eu dewis o destun. Dyma, er enghraifft, adroddiad y Western Mail am yr hyn oedd gan Pedrog i'w ddweud ar y mater wrth iddo draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid: Brilliant as Mr. Gladstone's character was, they [y beirniaid] believed it was unfortunate to place him as the chair subject, because that meant limiting the imagination within certain bounds, and was a disadvantage to produce a new creation. There was in the poems too much idolatory and sham weeping and mourning, and of the record of bare facts without any attempt at poetry (Western Mail, 21 Gorffennaf 1899, t. 6). Beirniadwyd y pwyllgor am eu dewis o destun ar gyfer cystadleuaeth y goron hefyd. Meddai'r Western Mail eto (20 Gorffennaf 1899, t. 4): 'We attribute the failure which has attended the competition on the crown prize chiefly, if not entirely, to the committee's choice [of subject]', (sef 'Y Dyddanydd Arall'). Er mor wan oedd y gystadleuaeth, bu coroni ond nid heb dipyn o drafferth! Y bardd buddugol oedd 'Gwylfa' y Parchedig Richard Gwylfa Roberts (1871-1935) a oedd yr adeg honno newydd ddechrau ar ei weinidogaeth hir yn y Tabernacl (A), Llanelli. Er iddo gael ei weld yn yr eisteddfod y diwrnod cynt, nid oedd Gwylfa yn bresennol ar gyfer y coroni. Yn 61 Morien yn y Western Mail (20 Gorffennaf 1899, t. 5): 'It was said that when he [Gwylfa] learnt the night before that he was the victorious bard he returned to Llanelly by the express, being too nervous to undergo the ordeal of the crowning and the blasts of the Gorsedd trumpets.' Cymerwyd lle'r bardd buddugol gan Eifionydd, cofiadur yr Orsedd, ac aeth oddi ar y llwyfan er mwyn cael ei gyrchu yn 61 i'r llwyfan gan yr osgordd o