3. Griffith Ellis, Bootle, William Ewart Gladstone: Ei Fywyd a'i Waith (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1898), viii + 464 tud. Llyfr sylweddol a ymddangosodd yn rhannau yn y lie cyntaf. Dywed yr awdur yn ei ragymadrodd, wedi'i ddyddio 'BOOTLE, Tachwedd 3ydd, 1898': 'Bum am flynyddoedd yn casglu y defnyddiau at y Gwaith hwn Yr oedd cyfran helaeth o'r gyfrol wedi ei hysgrifenu cyn marwolaeth Mr. Gladstone; a daeth y Rhan gyntaf o honi i ddwylaw yr adolygwyr y dydd y cymerwyd ef i fynu.' Meddai Griffith Ellis ar gof hynod iawn, ac yn y cofnod arno yn Y Byw- graffiadur Cymreig (t. 194), dywed Dr Thomas Richards hyn amdano fel cofiannydd: 'Yr oedd y cofiannau a ysgrifennodd yn batrymau o gywirdeb, ond fel cofiannydd tueddid ef i fanylu'n ormodol ac i ddefnyddio peth wmbredd o ddyfyniadau.' 4. Enwogion, a Phrif Ddigwyddiadau y Ganrif. Hanes Bywyd W. E. Gladstone (Dinbych: T. Gee a'i Fab, 1898), xvi + 336 tud. Er bod adrannau byr ar ddechrau ac ar ddiwedd y llyfr hwn yn ymdrin yn gyffredinol a hanes y ganrif ddiwethaf, ei gwleidyddiaeth a'i henwogion, cofiant i Gladstone yw sylwedd y gyfrol ddienw hon. Mae tudalennau'r llyfr wedi'u camrifo. Ar y dechrau ceir wyth o dudalennau cynnwys (tt. i-viii); yna adran ar 'Ddigwyddiadau Blynyddoedd Cyntaf y Ganrif (tt. ix-xvi); ac yna prif rediad y llyfr (tt. 9-344). Mae'n amlwg fod yr argraffwyr wedi drysu, gyda'r sawl a oedd yn paratoi'r ail blyg o 16 tudalen yn meddwl fod y newid o ffigurau rhufeinig i rai arabaidd wedi digwydd ar 61 yr wyth tudalen cynnwys yn y plyg cyntaf. 5. Griffith Jones ('Glan Menai'), Bywyd Crefyddol y Diweddar W. E. Gladstone (Llanfair- fechan: 'W. E. Owen, Argraphydd, Mona Buildings', [1899]), 32 tud. Nid cofiant mo'r llyfryn hwn, mewn gwirionedd, ond traethawd ar wedd gwbl ganolog ar fywyd Gladstone. 'Roedd yn eisteddfodwr brwd,' meddai'r Dr Gomer M. Roberts am 'Glan Menai' yn yr atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig (t. 115); ac nid syndod darllen, felly, mai traethawd buddugol Eisteddfod Gadeiriol y Bedyddwyr, Conwy, Nadolig 1898, oedd hwn. Hwn hefyd oedd yr unig draethawd yn y gystadleuaeth. Yr oedd, serch hynny, yn 61 y beirniad, T. Gwynedd Roberts, 'yn gwir deilyngu y Bathodyn Arian addawedig'. (At y cyfeiriadau yn yr atodiad i'r Bywgraffiadur, dylid ychwanegu fod gan L. Haydn Lewis erthygl ar 'Glan Menai' yn YGenhinen, Gaeaf 1972, 34-9).