GLADSTONE YN GYMRAEG N 61 John Owen Huws, mewn erthygl yn Llafar Gwlad (rhif 7, y Chwefror-Mai 1985), daeth miloedd ynghyd ym Medi 1892 i wrando ar W. E. Gladstone, y prifweinidog Rhyddfrydol enwog, pan agorodd 'Lwybr Watkin', llwybr sy'n arwain o Nantgwynant i gopa'r Wyddfa. Hen wr yn tynnu am ei 83 oed ydoedd Gladstone erbyn hynny, ac yr oedd newydd ddechrau ar ei bedwerydd tymor yn brifweinidog Prydain Fawr. Codwyd tabled ar y garreg yr areithiodd Gladstone oddi arni ar yr achlysur hwnnw. Yn 61 y cofnod ar y tabled, anerchodd 'drigolion Eryri ar lawnder i Gymru', ac wedi iddo orffen, 'Canodd y dyrfa Emynnau Cymru a Hen Wlad fy Nhadau'. Brodor o Lerpwl oedd William Ewart Gladstone (1809-98), ond yr oedd ei gysylltiadau Celtaidd yn rhai cryf. Albanwr ydoedd o ran ei dras, a Chymraes oedd ei briod, sef Catherine Glynne o Gastell Penarlâg yn yr hen sir Fflint. Fe'i priododd yn 1839, ychydig wythnosau cyn i'w wrthwynebydd mawr gwleidyddol, Benjamin Disraeli, briodi gweddw'r aelod seneddol, Wyndham Lewis o Greenmeadow, Tongwynlais, ger Caerdydd. Ac eithrio un bwlch byr yn y pedwardegau, bu Gladstone yn aelod seneddol o 1832 hyd ei ymddeoliad yn 1895, ac yn brifweinidog bedair gwaith rhwng 1868 a 1894. Ond er y galwadau mynych arno yn Llundain a mannau eraill, nid oedd dim yn well ganddo nag ymneilltuo i Gastell Penarlag, ac roedd yn arbennig o hoff o dorri coed ym mharc y castell ac o encilio i'w lyfrgell helaeth yno. Dyma'r casgliad o ryw 30,000 o gyfrolau a ddaeth yn sylfaen i Lyfrgell Sant Deiniol ym Mhenarlag, llyfrgell a sefydlodd Gladstone ar ddiwedd ei oes ac sydd erbyn hyn yn un o'r canolfannau pwysicaf ar gyfer ymchwil i fywyd a meddwl Oes Fictoria.1 COFIANNAU CYMRAEG I GLADSTONE Nid yw'n syndod o gwbl fod y miloedd wedi crynhoi wrth droed yr Wyddfa i glywed Gladstone ym Medi 1892 oherwydd, er gwaethaf ei sel dros Eglwys Loegr a'i dueddiadau uchel-eglwysig, bu Glastone yn gryn arwr i lawer yng Nghymru Anghydffurfiol ail hanner y ganrif ddiwethaf ac yn enwedig o ganol yr wythdegau ymlaen, gyda thwf Mudiad Cymru Fydd. Arwydd o'r parch uchel a delid iddo yng Nghymru yw'r llu erthyglau amdano yng nghylchgronau a phapurau newydd y cyfnod, y portreadau a'r cerfluniau niferus ohono, a'r cystadlaethau y bu ef yn destun iddynt mewn eisteddfodau, gan gynnwys cystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1899, y flwyddyn ar 61 iddo farw. Sonia Mary Wiliam, er enghraifft (yn Y Casglwr, Nadolig 1985), am blatiau a fu'n hongian ar walydd cartrefi ym Meirionnydd, gyda lluniau Mr a Mrs Gladstone arnynt. Ar ben hyn oil, cyhoeddwyd o leiaf bum cofiant i Gladstone yn y Gymraeg. Dyma restr ohonynt: