LLYFR TALIESIN JlYFR TALIESIN yw'r teitl a ddefnyddir fynychaf wrth gyfeirio at lawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Peniarth 2. Nid oes prawf, er hynny, fod y teitl hwn wedi'i ddefnyddio cyn 1707 pan ymddangosodd Lhyvyr Taliessin yn y rhestr o lawysgrifau llyfrgell Hengwrt a baratoes Edward Lhuyd ar gyfer yr Archaeologia Britannica.1 Ni welais y term yng ngweithiau Robert Vaughan ei hun, ond y tebyg yw mai ef a roes y teitl hwn ar y llawysgrif gan dybio mai fel llawysgrif flodeugerdd y'i lluniwyd yn wreiddiol, er mwyn crynhoi'r cerddi hynny a dadogwyd, yn gam neu'n gymwys, ar Daliesin Ben Beirdd, ynghyd a cherddi lied ddysgedig a adlewyrchai wedd ar y traddodiad barddol a gysylltid yn arbennig ag enw'r Taliesin chwedlonol. Nid cynnwys y llawysgrif fydd dan sylw yn yr ysgrif hon, fodd bynnag,2 ond gwneuthuriad a hanes Llyfr Taliesin, a nodweddion y ddau grwp o lawysgrifau canoloesol sy'n gysylltiedig ag ef. Ceir tua thrigain cerdd yn y llawysgrif wedi'u copïo gan un llaw fedrus. Torrwyd y memrwn3 (a oedd yn cynnwys ambell dwll) i faintioli ychydig yn fwy na'r maintioli presennol o 178 x 127mm, a gosodwyd y testun o fewn ffram ysgrifennu sengl 146 x 89mm. Nid oes pigiadau4 i'w gweld bellach: rhaid bod y dail wedi'u tocio rywfaint. Rhiwliwyd y dail a phwyntil sych,6 gan ychwanegu llinellau dwbl ar hyd yr ymyl allanol.7 Y mae'r ysgrifen yn dechrau dan y llinell uchaf,8 ac y mae 26/27 llinell i bob tudalen. Ychydig iawn o addurn sydd yma,9 ac eithrio'r priflythrennau dwy-linell coch a glas, a'r teitlau breision.10 18, 28, 38, 48, 58, yw'r cydiant, ond bod dalen gyntaf plyg 1 ar goll; ymddengys mai traul canrifoedd lawer yw'r draul ar ail ddalen y plyg hwnnw. Mae dalen gyntaf plyg 4, hithau, ar goll, a gall fod plygion cyfain yn eisiau rhwng plyg 3 a phlyg 4. Mae'r cipeiriau ar ff. 7v a 30v yn cydio plygion 1-2 a 4-5, ond dengys y cip-air ac amlan ar f. 38v fod un neu ragor o blygion yn eisiau ar ddiwedd y llawysgrif. Mae pedair cerdd, o'r herwydd, yn ddiffygiol.11 Erys 38 dalen, felly, o lawysgrif a gynhwysai o leiaf chwe phlyg (- 48 dalen) pan oedd yn newydd. Yn ogystal a daleniad o'r unfed ganrif ar bymtheg, mae tudaleniad diweddar yn llaw J. Gwenogvryn Evans. Ar y rhwymiad presennol (croen llo, ail ganrif ar bymtheg), mae'r rhif 26: cyfetyb hwn i'r rhif a roddwyd i'r llawysgrif gan Lhuyd wrth iddo gatalogio llawysgrifau Hengwrt yn 1696.12 Maes o law, fe roddwyd rhif newydd ar y rhwymiad, sef Hengwrt 17. 13 Ar wahan i'r teitlau a ysgrifennwyd gan y brif law, mae dau grwp arall o deitlau: llaw o'r bedwaredd ganrif ar ddeg a fu'n gyfrifol am y teitlau yrymes detbrawt (f. 4V),14 Llvruc alexandyr (f. 24v),15 Anryuedodeu Allyxandler] (f. 24v), Llath voyssen (f. 25r),16 preideu Annwn (f. 25v), [kywjryssed [gwyjned [a dehjeubarth (f. 34v), Gwawtgwyr isra[el] (f. 35r), a coloflyn cjerdd (f. 35v).17 Mae teitl