Y FERSIWN O'R HEN DESTAMENT HEBRAEG YM MEIBL CYMRAEG 1620 DAW hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar Ibymtheg a'r ail ar bymtheg i'w derfyn gyda chyhoeddi Beibl Cymraeg 16201. Yn y cyfnod ar 61 cyhoeddi Beibl William Morgan (1588), yr unig ddatblygiad o bwys yn hanes cyffredinol cyfieithu'r Ysgrythurau oedd cyhoeddi dau Feibl Saesneg. Ym 1609/10 cwblhawyd fersiwn Saesneg Eglwys Rhufain o'r Beibl gyda chyhoeddi, yn Douay, gyfieithiad o'r Hen Destament mewn dwy gyfrol. Yr oedd y fersiwn hwn yn seiliedig nid ar yr Hebraeg ond ar fersiwn Lladin y Fwlgat fel y ceid hwnnw yn yr argraffiad a awdur- dodwyd gan y Pab Clement VIII (1592). Fel y disgwylid, nid yw Beibl Cym- raeg 1620 yn dangos unrhyw arwydd o ddibyniaeth ar fersiwn Douay. Ond y gwrthwyneb sy'n wir am Feibl Saesneg arall y cyfnod, hwnnw a adweinir fel 'Y Fersiwn Saesneg Awdurdodedig' neu 'Feibl Iago I' ac a gyhoeddwyd ym 16112. Fel yr eddyf yr Esgob Richard Parry3 yng Nghyflwyniad Lladin Beibl 1620, llwyddiant fersiwn Saesneg 1611 oedd yr hyn a'i symbylodd ef i: ymgymryd a gwneud i'r fersiwn Cymraeg o'r Beibl yr hyn sydd wedi ei wneud mor llwyddiannus i'r fersiwn Saesneg. Yn wir, fe gymer yr Esgob Parry fod gorchymyn y Brenin i ddiwygio'r Beibl Saesneg yn orchymyn hefyd, bron, i ddiwygio'r Beibl Cymraeg: Felly ymgymerais a'r gwaith wedi fy symbylu, 0 Frenin, gan eich gorch- ymyn chwi i'r Saeson. Nid yw'r Esgob yn egluro i ba raddau y pwyswyd ar Fersiwn Saesneg 1611 wrth ddiwygio'r Beibl Cymraeg, a lliwgar yn hytrach na manwl yw ei ddis- grifiad o ddulliau'r diwygio: Felly, trois at gyfieithiadau'r gwyr hyn [Richard Davies, William Salesbury a William Morgan] ac yn enwedig yr olaf, a lie tybiwn fod angen, fel ar hen adeilad, dechreuais ei atgyweirio gyda gofal o'r newydd. Ond pam? Fel y dywed Jerom: 'A ydym yn condemnio'r hen gyfieithwyr? Ddim o gwbl; yn hytrach llafurio yr ydym ar batrwm eu heiddgarwch hwy yn nhy yr Arglwydd, yn 61 ein gallu'. Fe ganiateir lloffa yn y winllan ar 61 y cynhaeaf grawnwin a chasglu tywysennau ar 61 y fedel; ac yn achos adeilad sydd wedi ei godi hyd y pen gyda chlod i'r adeiladydd, fe ganiateir cadw'r adeilad mewn cyflwr da, symud yr hyn nad oes ei angen, codi'r hyn sydd wedi cwympo, a chydio ynghyd yr hyn sy'n ymddatod. Am hynny, fel y cadwodd yr Atheniaid long Theseus mewn bod trwy dorri ymaith y pren oedd wedi pydru gan henaint, a gosod yn ei le bren cadamach gan ei asio mor gelfydd nes bod rhai yn taeru