o Fon), ac a gwblhawyd felly yn ystod y ddeunawfed ganrif, ond nas cyhoeddwyd hyd 1878.7 Gan fod disgrifiad o 'Celtic Remains' yn Trysorfa Gwybodaeth, 1807, cylchgrawn y bu Peter Bailey Williams ynglyn â'i gyhoeddi, y mae'n bur debyg y byddai wedi cael cyfle i weld y llawysgrif.8 Yr hyn a ddywed Lewis Morris am Dudur yw: Tudur Aled a poet, an 1490. He lived at Garth Geri in Chwibren, in the parish of Llansannan (E. Llwyd). (Sylwer mai 'E. Llwyd' a rydd Lewis Morris fel ei ffynhonnell, sef Edward Llwyd (1660-1709) yr hynafiaethydd, debyg. Dyma bwnc y bydd rhaid dychwelyd ato yn y man.) Wedi olrhain y dystiolaeth ysgrifenedig gynharaf am Dudur Aled, mae'n ofynnol ystyried i ba raddau y ceid traddodiad llafar amdano yn Llansannan yn y gorffennol. Yn y cylchgrawn Goleuad Cymru am 1828, cyhoeddwyd cofiant Edward Parry o Frynbugad gan ei lysfab. Er bod yn y cofiant gyfeiriad at William Salesbury a'r traddodiad sy'n ei gysylltu ef â Chae-du, Llansannan, ni sonnir gair am Dudur Aled.9 Gwr y disgwylid y byddai ganddo ddigon i'w draethu am Dudur fyddai William Rees (Gwilym Hiraethog). Cafodd ei eni yn nhreddegwm Chwibren yn 1802, a threuliodd naw mlynedd ar hugain gyntaf ei fywyd rhwng Chwibren Isaf, Rhydloyw a Chae-du, tri thyddyn yn perthyn i'r un filltir sgwâr a Garthgeri. Fe drwythwyd Gwilym Hiraethog yn nhraddodiad barddol a hynafiaethol ei fro gan ei athro barddol, Robert ap Dafydd o'r Gilfach-lwyd, yn yr un cwr o'r plwyf, a daeth yn gydnabyddus â gwyr megis Robert Dafis (Bardd Nantglyn) a William Owen [-Pughe].10 Yn 1856, cyhoeddodd Gwilym Hiraethog ysgrif goffa i'w dad yn Y Traethodydd lie trafodir ganddo gysylltiad ei deulu â'r tri thyddyn a grybwyllais uchod, gan wneud yn fawr o gysylltiad William Salesbury â'i hen aelwyd yng Nghae-du.11 Sonia hefyd am ei hynafiaid ei hun, Llwydiaid Chwibren, gan hawlio, a hynnv ar gam fel mae'n digwydd, eu bod yn hanu o Lywelyn Chwith o Chwibren.12 Yr oedd Tudur Aled, yntau, yn disgyn o'r un cyff, ond nid oedd gan Wilym Hiraethog yr un gair i'w ddweud amdano ef, er ei bod yn amlwg oddi wrth un arall o'i ysgrifau yr ystyriai mai gwr o Lansannan oedd Tudur.13 Yn 1850, lluniodd Richard Henry Jackson, curad Llansannan, arolwg o'i blwyf; cyfrol lawysgrif a alwodd yn 'Speculum Gregis'. Y mae'r arolwg ei hun yn ddigon o brawf fod Jackson yn adnabod ei blwyf yn drwyadl, eto nid oedd ganddo ddim mwy i'w draethu am Dudur Aled na'r hyn a welodd yn Gorchestion Beirdd Cymru, ond iddo gamddeall Rhys Jones a chysylltu'r bardd â phlas Dyffryn Aled yn hytrach nag â'r dyffryn yn ddaearyddol:14 'Tudur Aled'. This bard was a Llansannan man he lived at Dyffryn Aled in the co of Denbigh & flourished in or about the year AD 1490. His residence was supposed to have been at the Old Dyffryn Aled the opposite side of the river to the present house near the present Ice house. He published several pieces of poetry many of which are extant in the present day and may be seen in 'Gorchestion Beirdd Cymru' published 1773 by 'Rhys Jones'.