Skip to main content

GWILYM WAS DA Wrth ddisgrifio'r llawysgrif Gymraeg o Gyfraith Hywel sydd yn Llyfrgell Coleg y Drindod, Caergrawnt (Tr),1 fe gyhoeddodd Mr. J. Enoch Powell yr incipit Lladin a'r coloffon Cymraeg sydd ill dau'n cofhodi enw'r sawl a sgrifennodd y llawysgrif:2 fir Gulielmus Wasta hoc opus scripsit. f.68r Gvilym Wasta or Drefiiewyd Fel y gwyddys, llawysgrif o ddosbarth Blegywryd yw Tr, ac fe'i defhyddiwyd yn un o dair ar gyfer argraffiad yr Athro Stephen J. Williams a Mr. Powell o'r dosbarth.3 Gallai'r 'Drefnewydd' fod yn un o amryw fannau yng Nghymru, ond o gofio'r son am Ddinefwr a geir ynLlyfr Blegywryd, naturiol fyddai chwilio'r cyfeiriadau at y Drenewydd a aeth gydag amser yn enw Cymraeg ar y 'Dynevor Castle' presennol.4 Casglwyd llawer iawn o ddefhydd am Ddin- efwr gan E. A. Lewis yng nghyfrolau cyntaf y West Wales Historical Records, gyda rhai nodiadau gan D. Lleufer Thomas, ac mae ymysg y defhydd un cyfeiriad at Wilym Was Da. Calendr yn Saesneg a argraffwyd; dyma'r defnydd gwreiddiol o'r cofnod yn y Public Record Office:5 Redditus assise ville de Dynevaur Anno regni regis Edwardi xxxjo Burgenses Anglici de villa inferiori que vocatur noua villa Johannes de Mora tenet j burgagium et j acram terre mensure de Kermerdin redditu xij d. Willelmus Was da tenet j burgagium et j acram terre redditu xij d. Dyna leoli Gwilym Was Da yn ymyl Dinefwr yn 1302-3; ond efallai ei fod yno ers sawl blwyddyn, heb fod cofnod amdano. Hyd y gallwyd catifod, nid oes ar gyfer unrhyw flwyddyn arall restr debyg i'r un a ddyfynnwyd uchod, sy'n perthyn i ddosbarth y Rentals and Surveys, ond gwyddys fod trigolion yn y DreÍiiewydd er 1298; dangosir hynny gan y nodyn o'r Ministers' Accounts am 1303-4 a galendrwyd fel hyn gan E. A. Lewis: Of the New Town, nothing for burgages and lands because the burgesses of the town hold their burgages and lands without rent from the first foundation of the town for seven years, whereof this year is the sixth beginning on the Morrow of All Souls.6 1298, felly, yw terminus a quo sgrifennu Tr; os gellir taro ar gofhodion diweddarach am fwrdeisiaid y Drenewydd, efallai y gellir sefydlu terminus ad quem hefyd i'r gwaith. Yn y cyfamser rhaid ymfodloni ar fod wedi lleoli'r sgrifennwr hwn mewn man arbennig tua'r troad i'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Fe sylwir mai bwrdais Seisnig oedd Gwilym Was Da; ond nid yw hynny'n golygu fod angen chwilio yn y Saesneg am ystyr i'w gyfenw, gan fod ym mysg ei gydfwrdeisiaid eraill a chanddynt enwau Cymreigaidd: Thomas Wyndod, Hicdoun Llouwarch, Gronou Goch, Thomas ab Houel, Houel Kygour, Johannes ab Heuel, Wilym Kethyn, Dauid Seys, Jewan ab Matheu, a Gruffyt Went a'u rhoi yn orgraff y memrwn. Er hynny, efallai i safle Gwilym ddylanwadu rywfaint ar ei waith ar y llyfrau cyfraith. Mae pob lie i gredu iddo sgrifennu, nid yn unig Tr, ond y ddwy lawysgrif o Lyfr Blegywryd sydd heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan y rhifau Peniarth 36A a 36B (0 ac N Aneurin Owen). Mae nodweddion arbennig i destun y tair llawysgrif hyn, yn enwedig yn eu gwaith yn hepgor y rhan fwyaf o Gyfreithiau'r Llys:7 gellid disgwyl i Wilym Was Da fod yn ymwybodol iawn nad oedd 'aruer na chrynodeb' o gyfreithiau'r llys mwyach, ac yntau'n byw mewn bwrdeistref Seisnig, a sefydlwyd wedi marw'r olaf o dywysogion Deheubarth a hynny mewn man a oedd yng ngafael y Saeson dipyn cyn hynny. Dylid ychwanegu fod sgrifen y tair Ilawysgrif gyfreithiol yn bur debyg i sgrifen Llyfr Taliesin (er nad yr un sgrifen yw hi), ac mae dyddio a lleoli'r Ilawysgrifau cyfraith felly'n ychwanegu'n sylweddol at ein gwybodaeth am un o brif lawysgrifau llenyddol y Gymraeg; ac yn awgrymu llawer ynghylch pwysigrwydd Dyffryn Tywi yn y traddodiad llenyddol a dysgedig Cymreig. Caerdydd MORFYDD E. OWEN Aberystwyth DAFYDD JENKINS