Y MORAFIAID YN NEHEUDIR CYMRU* CYFRIFAF hi'n fraint ac anrhydedd mawr i gael gwahoddiad i draddodi'r Ddarlith Goffa hon. Pan gefais y gwahoddiad a dechrau meddwl am destun addas nid oedd unrhyw amheuaeth yn fy meddwl rhywbeth am y Morafiaid, maes a oedd yn agos at galon y diweddar Ddr. R. T. Jenkins. Y mae The Moravian Brethren in North Wales (1938) yn glasur o'i fath, ac oblegid hynny nid oes galw arnaf i droedio ar diriogaeth y gyfrol honno. Bu'n rhaid i Dr. Jenkins gyffwrdd â chenhadaeth y Morafiaid yng Nghymru'n gyffredinol, wrth gwrs, a tharo ambell gis ar y canolbarth ac ar Ddyfed; ond canolbwyntiodd ar Wynedd. Nid oes angen imi chwaith drafod cefndir yr Unitas Fratrum y Brodyr Unedig, fel y geilw'r Morafiaid eu hunain, gan i'r Dr. Jenkins roi crynodeb byr ond cynhwysfawr o hanes y Brodyr yn gyffredinol, ar y Cyfandir ac ym Mhrydain, yn y bennod ragarweiniol i'w lyfr. I arbed amser fe'ch cyfeiriaf at y bennod honno. Canolfan gyntaf y Brodyr ym Mhrydain oedd y Seiat honno yn Fetter Lane, Llundain, a gorfforwyd yn 'Gynulleidfa' (neu Eglwys) yn 1742. 'Roedd rhai Cymry yn aelodau o'r Seiat honno, ond credir mai'r Morafiad cyntaf o Gymro oedd William Holland (1711-61), brodor o Hwlffordd, sir Benfro, a dynnodd at y Brodyr yn 1741 ac a neilltuwyd yn 'llafurwr' Morafaidd. Ymunodd â'r Gynulleidfa yn 1742, ryw ychydig o flaen ei gyfaill a'i gydwladwr John Gambold (1711-71) yr Esgob Gambold ar 61 hynny, yntau hefyd yn frodor o sir Benfro.1 'Roedd Holland yn 'stiward' y Gynulleidfa, ac yn 'henuriad', ac yn 1743 fe'i penodwyd yn 'ohebydd dros Gymru'. Cymro arall a oedd yn aelod o'r Gynulleidfa yn Fetter Lane oedd William Griffith (1704-47), brodor o Benmorfa, Eifionydd a weithiai fel crydd yn Llundain yn 1742 pan ymunodd a'r Morafiaid.2 'Roedd yntau hefyd yn 'henuriad', ac yn 1743 anfonwyd ef ar genhadaeth i Gymru. Nid oes unrhyw brawf iddo genhadu yn Arfon y pryd hynny, ond gwyddys iddo gyrraedd Hwlffordd cyn diwedd Gorffennaf, a'i fod yng Nghaerfyrddin yn nechrau mis Awst; cyrhaeddodd yn 61 i Lundain erbyn y 23ain. Ef oedd y Morafiad cyntaf a bregethodd athrawiaethau'r Brodyr yn Nyfed. Ymwelodd â'r fro honno rai wythnosau cyn i John Gambold ddychwelyd i'w sir enedigol, ond yn anffortunus ni wyddys ddim byd pellach am yr ymweliad hwnnw. Ganwyd John Gambold yng Nghas-mael, yn un o feibion y Parchedig William Gambold (1672-1728), rheithor Cas-mael. Ymaelododd yng Ngholeg Crist, Rhydychen yn 1726, a daeth i gyswllt yno a Charles Wesley ac ymaelododd yn y Clwb Sanctaidd. Wedi graddio penodwyd ef yn ficer Stanton Harcourt ger Rhydychen yn 1735, ac yn 1739 cyfarfu â'r Cownt Zinzendorf, y Morafiad enwog o'r Cyfandir, a'i tueddodd ef at Forafiaeth. Rhoes ei fywoliaeth i fyny yn 1742, a dychwelodd i sir Benfro i gadw ysgol yn Stryd y Farchnad, Hwlffordd. 'Roedd Darlith Goffa R. T. Jenkins, a draddodwyd yn Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor 5 Mai 1974, yr ail o'r gyfres.