BARDD Y BRENIN IOLO MORGANWG A DERWYDDIAETH VI IOLO Morganwg a gyfansoddodd bron y cyfan o'r Trioedd a welir ar ddechrau The Bardic Museum.! Y mae yma fodd bynnag ddeunydd dilys. Ceir y triawd 'Tair unben Cerdd: Yw Prydu: Canu Telyn; a Chyfarwyddyd' yn Peniarth 122 mewn ffurf bron yn union yr un fath. Ceir ffurf ar yr un triawd yn Relicks 17943 ar 61 deunydd o eiddo lolo, sef 'Geraint, neu'r Bardd Glas o'r Gadair, a aeth yn Fardd Telyn i Aelfryd Brenhin Llundain'. Y mae'r deunydd olaf hwn yn dangos dulliau Iolo o feddwl. Lluniodd Glasceraint o Glaskirion a geir yn rhestr Bale o feirdd Brythonig neu Gymreig ar 61 geni Crist. Gwelir y ffurf Glascurion gan Chaucer, a Glascirion gan John Lewis, Llynwene. Trwy dybio mai yr un oedd 'Asser' a'r gair Saesneg 'azure', credwyd fod 'Glas' yn 'Glasceraint' yn cyfeirio at Asser, a gwnaed ef a Geraint, sef yr elfen dybiedig arall yn y gair, yn un person. Cam pellach oedd gwneud Geraint ei hun, nid yn unig yn Fardd Glas o'r Gadair, ond hefyd yn Fardd Telyn Alfred Fawr oherwydd cysylltiad hanesyddol Asser a'r brenin hwnnw.4 O ystyried pob un o'r trioedd eraill yn yr adran hon o The Bardic Museum ar ei ben ei hun, ni ellir bod yn sicr pa un ai cyfansoddiad gwreidd- iol gan lolo Morganwg, ynteu hen driawd a newidwyd ganddo, ynteu triawd cwbl ddilys ydyw, heb fod wedi gweld pob un o'r trioedd a gadwyd o'r cyfnod o flaen lolo. Ni thrafodwyd y trioedd a luniodd lolo yn fanwl yn Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956) ychwaith.5 Oni ellir dangos yn wahanol ystyrir y gweddill o'r trioedd ar ddechrau The Bardic Museum yn drioedd a gyfansoddodd lolo o'i ddychymyg yn hollol neu o hen ddeunydd. Dywaid y diweddar Athro G. J. Williams mai lolo biau'r trioedd ar tt. 4-7, 6 ond gwelwyd uchod fod y triawd 'Tair unben Cerdd' yn ddeunydd dilys. Y mae'n ddiamau mai eiddo lolo yw'r trioedd o t. 1 hyd ganol t. 4 fel yr awgrymwyd ar ddiwedd yr erthygl gyntaf o'r gyfres hon.7 Sylwer i ddechrau ar y gyfres gyntaf o drioedd, sef: 1. 'Llyma Drioedd y Beirdd. Tri chysefin Feirdd Ynys Prydain: Idris Gawr, yr hynaf, ac ef a wnaeth Delyn gyntaf; Eidiol Gleddyfrudd, yr Arch Dderwydd; a Manogan Amherawdr, tad Beli Gawr. 2. Tri Amherodraidd Delynorion Ynys Prydain: Arthur; Glewlwyd Gafaelfawr; a Chrella, Bardd Telyn Gruffydd ab Cynan. 3. Tri Dyn ynt Gogyfurdd: Brenin; Telynior; a Bardd. 4. Tri Gwr pennaf yn y Llys: Telynior; Esgob; a Bardd. 5. Tri Barnwyr Gwlad: Bardd Telyn y Brenin; Bardd Tad y Brenin; ac Arwyddfardd y Llys. 6. Tri Bardd Caw y sydd: Telynfardd; Cywyddfardd; ac Arwyddfardd.