Y PARCH. DAVID EVANS, PENCADER-YMFUDWR CYNNAR I PENNSYLVANIA YM mis Mehefin 1964, tra oeddwn yn cymryd rhan mewn cynhadledd Fulbright ym Mhrifysgol Pennsylvania, Philadelphia, cefais gyfle i ymweld ag un o gasgliadau preifat cyfoethocaf y ddinas honno, sef The Philip H. & A. S. W. Rosenbach Foundation (2010 De Lancey Place, Philadelphia 3, Pa.). Ar ddiwedd yr ymweliad mentrais ofyn i'r Gofalwr, Mr. W. McCarthy, a oedd rhywbeth Cymraeg yn eu meddiant. Gwyddai am un peth, a dangosodd imi lawysgrif fechan, oddeutu 4 modfedd sgwar, ac amdani glawr tenau. Sylweddolais o'i bodio ei bod o ddiddordeb, a gofynnais am photostats ohoni. Cydsyniodd y Gofalwr, a derbyniais yn hwyrach fwndel ohonynt, ynghyd a nodyn yn esbonio i'r llyfryn fod ym meddiant Mr. Samuel Whitaker Penny- packer (1843-19 1 6). Hwn ydoedd y cyfreithiwr a'r barnwr a ddaeth yn ddiweddarach yn Llywodraethwr Pennsylvania. Yr oedd yn adnabyddus hefyd fel hanesydd, aelod a llywydd o'r Pennsylvania Historical Society, ac fel gwr a ffurfiodd 'gasgliad dihafal o ryw 10,000 o eitemau ynglyn a hanes Pennsylvania'.1 Yr ysfa am fwy o hanes ei briod dalaith sy'n esbonio, debyg iawn, sut yr aeth y llyfryn Cymraeg i feddiant Samuel Pennypacker, a thebyg mai ar ei orchymyn ef y cafodd rhyw Gymro o'r ganrif ddiwethaf y dasg o lunio aralleiriad Saesneg o'r testun Cymraeg a osodwyd y tu mewn i gloriau'r llawysgrif. Penderfynais gynnwys yr aralleiriad yma ynghyd a'r testun gwreiddiol, nid yn unig oherwydd ei ddefnyddioldeb i'r darllenydd di-Gymraeg, ond hefyd am fod ei awdur yma a thraw yn tynnu ar wybodaeth nas ceir yn y gwreiddiol. Gwelir mai cerdd fywgraffyddol yw hon, a chyhoeddir hi am ei bod yn werthfawr, yn gyntaf fel darn ychwanegol o dystiolaeth am Gymro a weithiodd yn hir a chaled yn y winllan newydd yr ochr draw i For Iwerydd yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, ac yn ail, am fod y gerdd yn taflu goleuni ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod hwnnw. Gellir dannod i'r awdur ei ddiffyg rhagwybodaeth am ofynion hanesydd yn yr ugeinfed ganrif, ond doethach ydyw diolch iddo am y briwsion a syrthiodd oddi ar y bwrdd, a gwneud y gorau ohonynt. Y mae awdur y gerdd, y Parch. David Evans o Bencader, wedi haeddu peth sylw o'r blaen,2 ond deil yr wybodaeth amdano'n fylchog ac ansicr. Penderfynais felly mai'r cynllun gorau fyddai dilyn hynt ei hanes o'i gychwyn, a cheisio gosod unrhyw wybodaeth newydd i mewn i batrwm yr hanes. Rhydd y gan ddarlun cyflawn o fywyd David Evans o ddydd ei eni hyd at yr adeg pan sgrifennwyd y gerdd. Gan nad oes sicrwydd ynghylch y dyddiad olaf, ar wahan i dystiolaeth y gerdd ei hun, mentrais osod i lawr, mewn atodiad, y cerrig milltir ar hyd taith ei fywyd. Gellir honni felly i'r gerdd gael ei sgrifennu pan oedd yr awdur,