Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENRY PRICE, M.A., PRIFATHRO YSGOL RHUTHUN, ?i655-i726 Beth amser yn 61 tynnwyd ein sylw at gyfrol lawysgrif fechan o Lyfrgell Bodley, Rhydychen (Bodl. MS. Lat. Misc. f35), yn cynnwys dyddiadur dienw (Lladin gan mwyaf) am y cyfnod Ionawr 1709-Ebrill 1710. Dyddiadur ysgolfeistr a gadwai ysgol ?breifat, yn 61 pob argoel rywle yng nghyffiniau tref Rhuthun, sir Ddinbych, oedd y gyfrol, ac wrth geisio datrys problem yr awduraeth tueddwyd ni i'w chysylltu a Henry Price M.A., a fuasai mewn cyfnod cynharach yn brifathro ysgol ramadeg Rhuthun. Ni lwyddasom i brofi mai Price oedd awdur y gyfrol, ac erys y broblem honno heb ei datrys; Fodd bynnag, casglasom nifer o ffeithiau ynglyn a Henry Price, gwr a oedd yn un o'r cylch bychan hwnnw y 'Nonjurors' Cymreig, a hwyrach y bydd y rhain o ddiddordeb i rywun. Dywed D. R. Thomas, The History of the Diocese of St. Asaph, 1908, i, t. 345, fod Henry Price yn fab i Ellis Price, ficer Rhuddlan a phrebendari Llanfair yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Priodasai Ellis Price, Marie, merch hynaf Andrew Maurice, deon Llanelwy, 8 Mai 1637, yn eglwys Rhuddlan (gw. D. R. Thomas, op. cit i. t. 417, a hefyd Y Cwtta Cyfarwydd, gol. D. R. Thomas, Llundain, 1883, t. 171). Yn ôl Foster, Alumni Oxonienses, cofrestrwyd Henry, mab Ellis Price o Ruddlan, fel aelod o Goleg Iesu, Rhydychen, 19 Tachwedd 1669, pan yn 14 oed, ac ar yr un diwrnod cofrestrwyd Hugh, yntau hefyd yn fab i Ellis Price o'r un dref, ond yn 16 oed (ibid.). Ceir hefyd gofnod am fedyddio Foulk, mab Ellis a Marie Price, 26Awst 1638 (gw. YCwtta Cyfarwydd, tt. 181-2). Os oedd y tri hyn yn frodyr, rhaid bod Foulk gymaint a dwy flynedd ar bymtheg yn hyn na Henry, a phymtheg yn hyn na Hugh. Graddiodd Henry Price yn B.A. yn 1673, ac yn M.A. yn 1676 (Alumni Oxonienses). Yn 1678 cofnodir ei dderbyn fel un o fwrdeisiaid tref Rhuthun (gw. Cofnodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, x, t. 36), ac ar yr achlysur hwnnw disgrifid ef fel 'Mr. Henry Price, Master of Arts, head schoolmaster of the Free Schoole att Ruthin'. Yng nghasgliad Carreglwyd, sir Fon, o ddogfennau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir llythyr dyddiedig 13 Ebrill 1682 oddi wrth Henry Price yn Rhuthun at John Griffiths yng Ngharreglwyd (Carreglwyd Series II, No. 87). Ynddo sonnir am ddau fachgen, Will a John, a oedd, a barnu oddi wrth y cyd-destun, yn derbyn eu haddysg yn ysgol Rhuthun. Er na ellir bod yn bendant ynglyn a hynny, ymddengys yn dra thebygol oddi wrth y cynnwys a hefyd y Haw (o'i chymharu ag enghreifftiau o law Henry Price yng nghofnodion esgobaeth Llanelwy), mai prifathro ysgol Rhuthun a ysgrifennodd y llythyr Rhwng cromfachau, fel pe bai diddorol yw sylwi ar frawddeg fel hon yn yllythyr- the Form above Will and John are or will be gone to the University before the end of it(hy. y flwyddyn)', oherwydd yr oedd gan John Griffiths, Carreglwyd, ddau fab, William a John, a chofrestrwyd John a William Griffith, meibion John Griffith 'of the isle of Anglesey', yng ngholeg Iesu, Rhydychen, 20 Mawrth 1684 (gw. Foster, Alumni). Ar 22 Mai 1684 penodwyd Henry Price yn un o brebendariaid Llanfair yn eglwys gadeinol Llanelwy (gw. llawysgrif SA/MB/16 ymhlith cofysgrifau esgobaeth Llanelwy yn Llyfrgell Gened- laethol Cymru), a cheir ef yn arwyddo'r llwon arferol wrth dderbyn y swydd ar 23 Mai y flwyddyn honno (llawysgrif SA/SB/i yn y Llyfrgell Genedlaethol eto). Yn v flwyddyn ddilynol daeth Siams II i orsedd Prydain a theyrnasu am dair blynedd cyn ei droi oddi ar ei orsedd yn 1688. Dilynwyd ef gan ei ferch a'i fab-yng-nghyfraith, Mari a Wiliam, a rhaid yn awr oedd i offeiriadon yr eglwys anglicanaidd gefnu ar y brenin Siams a thyngu llwon priodol i'r brenin a'r frenhines newydd. Fe y gwyddys, gwrthododd yr archesgob Sancroft, pum esgob, a thros bedwar cant o offeiriaid ac eraill wneuthur hyn ac o'r herwydd collasant eu bywoliaethau ond ennill iddynt eu hunain le mewn hanes fel y 'Nonjurors'. Ymhlith y pedwar cant a rhagor yr oedd tua deunaw o offeiriaid a ddaliai fywoliaethau yng Nghymru, Henry Price yn un ohonynt (gw. J. H. Overton, The Nonjurors, their lives, principles and writings, Llundain, 1902, t. 490, a Thomas Richards, Piwritaniaeth a Pholitics, Wrecsam, 1927, t. 19). Enwir ef fel un o brebendariaid eglwys gadeiriol Llanelwy mewn rhestr ddyddiedig 1690, ond ar 30 Mehefin y flwyddyn