Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Etholwyr, cyfodwch, achubwch, da chwi, Ein cyrff a'n heneidiau rhag castiau y ci; Pob braint a phob rhyddid i gyd ant ar goll, Os 'nillir y frwydyr gan bleidwyr y Doll: Fe dollir ein bwydydd, ein crefydd, a'n crwyn, I'w gafael yn 'sglyfaeth Toriaeth a'n dwyn, Rhy hwyr wedi hyny fydd codi un cwyn! Mae'r Iuddew Disraeli, &c. Chwi wyr Aberteifi, gwnewch brofi i'r byd, Fod gwrol waed Gymry yn eich gwythi i gyd; Gwyr Llanbed ac Adpar, yn gynar ar goedd, Yn erbyn Torïaid, hen fleiddiaid, rhowch floedd: Am wyr Aberystwyth, mae'r tylwyth o'n tu, Gwrth'nebwyr pob gormes, er lies, ydyw'r llu, Dim fynent â Thori neu Busey ni bu! Mae'r Iuddew Disraeli, &c. PRYSE LOVEDEN, Gogerddan, un anian a'i Dad, A brofodd uwch eraill yn Gyfaill ein gwlad; Mae'i Votes yn anrhydedd yn Senedd i'n Sir, A'i ymgais yn wastad o gariad i'r gwir: Rhown ninnau ein lleisiau a'n geiriau i'r Gwr, A gwnawn ei Etholiad, wych siarad, yn siwr, A gyrwn y TORI o'r Deri i'w Dwr! Mae'r Iuddew Disraeli, &c.