Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rise, Ceredigion, rise thy faithful voice! Constant thou art, and must be called so more, Thy due it is, well done unshaken boys, You stood as firm as your own rocky shore. Unfurl the flag upon Pumlimon high, Swear, 'No compulsion by a stranger's hand'. Maintain your birthright, tyrants proud defy- For LIBERTY and GOGERDDAN EVER stand. JUNIAS. APPENDIX III BRWYDR Y DORTH! ETHOLIAD BWRDEISDREFI CEREDIGION Mesur- Glan Medd-dod Mwyn' DEWCH, wyr Ceredigion, rai purion, i'r porth, A chodwch yn bybyr i Frwydyr y Dorth; Mae ysbryd Toriaeth, mewn bariaeth a brad, Yn awr yn ymrithio i glwyfo ein gwlad: Ar ol cael ei goncro a'i guro'n deg gynt, A'i adael yn lleban fel allan o wynt, Mae eto eleni er hyny am ail hynt. Mae'r Iuddew DISRAELI a DERBY ar dan, A Thories y deyrnas o'u cwmpas a'u can; Os llwyddant, hwy'n trethant, fe'n nychant yn Ian Ail-drethu ein Llafur yw'r antur yn awr, Dwyn miloedd i newyn er mwyn y gwyr mawr; A'r Siwgr a'r Coffi, caiff rhei'ny eu rhan O nodded Protection, oer gwynion i'r gwan: Ni waeth gan y Tories gorwancus, yn wir, Pwy byth a gyrhaedda na bara na bir, Ond iddynt gael crogbris truenus o'r tir! Mae'r Iuddew Disraeli, &c. A pheth mwy anwylgu i Gymru gan waith, Ein rhyddid crefyddol, a'n nerthol hen iaith, Mae rhai'n mewn enbydrwydd,-oherwydd cyn hir Cymraeg a'r Capeli dry'r Tori o'r tir: Os na wnawn ymnerthu a'u trechu'r tro hwn, Treth Eglwys, Treth Ysgol, ga'r bobol yn bwn; A pheth fydd 'gwyddorion fath 'Sgolion, nis gwn! Mae'r Iuddew Disraeli, &c.