Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Such then, according to the bards, were the Pryses of Gogerddan in the fifteenth and sixteenth centuries-fierce and unflinching in the cause of justice, religious, God-fearing uchelwyr, proud of their responsibilities, and above all, generous. Cywydd i Rys David Llwyd pan aeth ar Bererindod i Rufain (Cwrt Mawr MS. 12, tud. 634-6) Gwylio'r wyf mae'n gul yr ais, A'r golwg rhof ar Galais; Pan aeth y mâb pennaeth mau I dy Bedr da wybodau; Y Hew o gorph Dafydd Llwyd, Ag o Rydderch y gwreiddiwyd; Od aeth Rys i'r daith rasawl, A bod ar ffordd Bedr a Phawl. Llwyr y'm bernir mewn hiraeth, Llew main i Rufain yr aeth; Anturio wnaeth o'n tir ni, Gael wyneb y goleuni; A lie i ynnill llawenydd, A lie caid rhoi enaid rhydd; Cael y grâs yn ddifasiwn Gan y pab ag wyneb hwn; Cael cyffes cynnes y caid, Er ynnill nef i'r Enaid; Cael yn 61 ffydd gatholig, Pardwn Duw rhag purdan dig; Cael gweled er trwydded draw, Y fernagl a fu arnaw; Cafas ef yno hefyd, Faddau holl bechodau'r byd; A'i olchi 'ngradd gyfaddef, Yn un o dair ffynnon nef; Pedr a Phawl i'r freiniawl fro, A Duw gwyn a'i dug yno; Padarn ail i Pedr o Nef, I'w dy gwydr a'i dwg adref; Mae'n ofnog oludog wlêdd Deau a chwbl o'i duedd; Gofalus oedd Gyfeiliawg, Yno ddewr hael na ddoi rhawg; Nid a i'mddiddan a dyn, Dafydd onid i'w ofyn; Bydd wych bu fynych dy fod, Dafydd mae Rhys yn dyfod; Chware wnai ei chwiorydd Er wylo'r dwr lawer dydd; APPENDIX I