RHAI 0 LAWYSGRIFAU HUW MORYS Hyd ddiwedd yr 17 ganrif yr oedd cop'io llawysgrifau yn grefft arbennig. Cyn bod argraffu llyfrau Cymraeg yn beth cyffredin, yr oedd gwerth ar 'ysgrif lyfr' o farddoniaeth Beirdd y Tywysogion a'r cywyddwyr, a detholiad o ryddiaith gyf- oethog y Mabinogion a'r Rhamantau, yn ogystal ag ar gasgliadau amrywiol o ddeun- yddiau meddygol, seryddol, a diwinyddol, heb anghofio hefyd ach-restrau'r ys- gwieriaid. O ganol y 15 g. fe geir bod llawer o'r beirdd megis Gutun Owain, William Cynwal, Simwnt Fychan, a William Llyn yn gopiwyr llawysgrifau hefyd, ac wedi tua 1550 eithriad yw cael bardd nad yw hefyd yn casglu achau ac yn llunio'i ddeth- oliad ei hun o gywyddau. Yn raddol fe welir felly helaethu maes eu gweithgarwch. Erbyn yr 17 g. fe gawn fod ysgolheigion a rhai o'r man ysgwieriaid — gwyr na ogleisiwyd gan yr awen-fel John Jones o'r Gelli Lyfdy, sir Fflint, Robert Vaughan, a gasglodd ynghyd lyfrgell amhrisiadwy Hengwrt, a William Maurice o Gefn-y-braich, Llansilin, yn ymgymryd a'r gwaith o ddiogelu llenyddiaeth Gym- raeg trwy gopio llafurfawr. Pan ddeuwn at ddechrau'r 18 g. gwelwn fel y dirywiodd y gelfyddyd o gopio yn ddirfawr. Y mae'r gwahaniaeth a geir rhwng llawysgrifau gwr celfydd fel John Jones, Gelli Lyfdy, ac 'ysgriflyfrau' Robert Foulkes, Llansilin, er enghraifft, yn amlygu toriad pendant yn y traddodiad. Un rheswm am hyn oedd y gwanhau a fu ar Gymreictod uchelwyr y wlad o dan bwys eu cyswllt a Llundain a'r ffasiynau newydd Seisnig a ddylifodd i'r plasau yn ysgil hynny. Er i gorff y genedl barhau i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ar lafar ac ar lyfr, eto i gyd pan gollodd mwyafrif helaeth yr uchelwyr flas at yr hen ddiwylliant brodorol, collwyd hefyd yr unig siawns a feddai gwerin dlawd o ddatblygu na llenyddiaeth na chelfyddyd fawr, sef nawdd ei chyfoethogion. Erbyn y 18 g. darfu am gopiwyr fel dosbarth wrth ei swydd, ac er cymaint oedd yr awydd ar lawer un am geisio gosod ar glawr a chadw cerddi'r beirdd, yr oedd yn rhaid i'r gorchwyl ddibynnu ar ddau beth prin a phwys- ig, sef ysgol ac oriau hamdden. Felly y cawn offeiriad fel John Morgan, Aber- conwy,l a chlochydd fel Dafydd Jones o Drefriw, swyddog llywodraeth fel Lewis Morris, a gwr-pob-gwaith fel Thomas Edwards o'r Nant-pob un yn 61 ei fedr a'i gyfle yn dethol ac yn copio. Lie byddai copiwyr llawysgrifau yn y ddwy ganrif gynt yn ymewino i gasglu cywyddau Dafydd ap Gwilym, aethant yn yr 17 a'r 18 g. i gynnull cerddi Huw Morys. Nid oes dim a ddengys mor llwyr y goddiweddwyd y canu caeth pende- figaidd erbyn canol y 18 g. gan y canu rhydd newydd (y canu rhydd cynganeddol fel y gelwir ef weithiau) a'r ffaith mai gwaith beirdd fel Huw Morys, Edward Morris, Mathew Owen, ac Owen Gruffydd yw cynnwys mwyafrif llawysgrifau trwchus