gyrraedd y Cefndigoll, heb son am fynd ymhellach; yn wir dim ond ynfytyn a fyddai wedi mentro'r fath lwybr heb fod yn bur sicr o gefnogaeth sylweddol. Fe dybiwn i fod llawn mwy o hanes plaid lore ar gael nag sydd o hanes y Lancastriaid. Dyna'r argraff a geir o ddarllen Wales and the Wars of the Roses H. T. Evans, ac er bod dros hanner can mlynedd er pan gyhoeddwyd ef (1915) deil o hyd yr ymdriniaeth lawnaf ar y cyfnod. Gwendid amlwg llyfr yr Athro S. B. Chrimes, Lancastrians Yorkists and Henry VII yw ei fod yn anwybyddu tystiolaeth Gymraeg yn llwyr. Y gwir syml yw na fedr neb ysgrifennu hanes Rhyfel y Rhosynnau yn llawn heb ei drwytho ei hun yn llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, yn arbennig yng nghanu Beirdd yr Uchelwyr. I ddeall hwnnw rhaid wrth wybodaeth am y Ddysg draddodiadol Gymraeg-am achau a herodraeth, chwedlau brodorol ac estron, hen gredoau yn grefydd a myth, er mwyn gwerthfawrogi union bwynt cyfeiriadaeth a deall gwir arwyddocad awgrym. Nid yw dibynnu ar ddog- fennau a chroniclau hanes yn ddigon; cynnyrch gwyr y gyfraith a'r dosbarth 'gwasanaeth sifil' yw'r naill, gwaith gwyr eglwysig, yn fynaich neu'n offeiriaid teulu, yw'r Hall. Ni ellir gwadu tystiolaeth dogfennau, er gwaethaf y llurgunio a fu ar enwau, ond gan y bardd y ceir teimladau'r gymdeithas a churiad ei chalon. Droeon mae'r croniclwr yn cymysgu enwau; nid felly'r bardd, ad- waenai ef yn bersonol bawb yn ei gymdeithas. O'i chodi'n fanwl gywir, ei chwilio'n ofalus a'i dehongli'n ddeallus, y mae tystiolaeth bardd gyda'r sicraf sydd i'w chael. Y mae trysorfa o wybodaeth yng ngweithiau'r beirdd. Y tu 61 i ganu Guto'r Glyn, Hywel Cilan, Tudur Penllyn a Lewis Glyn Cothi, i enwi dim ond pedwar -pedwar y mae eu gweithiau wedi eu cyhoeddi-y mae talp o feddwl gwleid- yddol y bymthegfed ganrif. Ac nid yw gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn mor anobeithiol dywyll ag y tybir yn gyffredin; y mae modd nithio llawer o'r brud oddi wrth y gwir sylwedd. Cymro oedd Wiliam Herbert, a Chymro oedd Siasbar Tudur, gwyr blaenllaw y naill blaid a'r Hall. Fe wyddai'r beirdd eu cyfrinachau. Arwain hyn i bwynt arall mor ffol yw son am Glawdd Offa fel ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn yr Oesoedd Canol iaith oedd y gair Cymraeg am nation, hi oedd yn creu undod, yn pennu pwy oedd yn Gymry a phwy oedd yn estron- iaid. Gwyddom fod diwylliant Cymraeg yn ffynnu i'r dwyrain o Glawdd Offa ymlaen i'r ail ganrif ar bymtheg. Byddai'r beirdd yn ymweld yn gyson a theuluoedd Llanfarthin, Croesoswallt, Y Cnwcyn, Generdinlle, Yr Un-dref-ar- ddeg, Y Felwern, Trefesgob, Cawres, Llanifan, Llanffynhonwen, a chroesewid hwy yn abaty Amwythig. Yr oedd i Owain Glyn Dwr ddilynwyr selog yn yr ardaloedd hyn; cadwyd cof amdanynt mewn llythyrau a dogfennau-Elis ap Rhisiart o Alrhe a oedd yn cludo'i faner, Cinastyniaid Stokes, Pilstyniaid sir