i dderbyn dyrchafiad i uwch-ddarlithiaeth yn Abertawe ac fe'i derbyniodd, yn y diwedd, er mwyn ei Adran. Ond, ar ôl cyfnod byr, ac ar ôl newid yn sefyllfa'r Adran, darostyngodd Rhees ei hun o'i fodd i fod yn ddarlithydd unwaith eto. Byw i athroniaeth ac nid ar athroniaeth wnaeth Rhees. Yn ail a dyfalu yw hyn — 'rwy'n tybio iddo ymdeimlo â'i wreiddiau. Er mai yng Nghanada y ganwyd ef, gwyddai'n iawn ei fod o dras Cymreig. Ei hen-hen-hen ddatcu oedd Morgan John Rhys, y Bedyddiwr o bregethwr a Chymro a ymfudodd i'r Amerig yn 1794. Ai damweiniol yw'r ffaith i Rhees ymddiddori cymaint yn y Cymry Cymraeg o efrydwyr yn enwedig yr efrydwyr hynny oedd â'u hwyneb tua'r weinidogaeth Gristionogol yng Nghymru? Ni chredaf hynny; 'rwy'n tybio i Rhees deimlo'n anghyffredin o gartrefol yma'n ein plith. Yma 'roedd beddrodau ei dadau ac yma y dymunodd fyw. Bellach, yn nhir Cymru mae ei feddrod yntau hefyd. Casgliad o erthyglau gan nifer o gydweithwyr Rhees a rhai o'i gydnabod yw'r llyfr pobl â pharch at Rhees a chydymdeimlad â'i safbwynt a hwnnw o eiddo Wittgenstein. Dyna, mi dybiaf, reswm arall dros deitl y llyfr. Oblegid nid llyfr am Wittgenstein ydyw ond llyfr sy'n ymwneud ag amrywiol bynciau oedd o ddiddordeb i Rhees ac sy'n cael eu trin o safbwynt Wittgensteinaidd. Ond y mae i'r llyfr hefyd is-deitl sef, Attention to Particulars, ac fe geir, gan un o olygyddion y gyfrol, yr Athro D.Z. Phillips, erthygl fer o ragymadrodd iddi sy'n egluro arwyddocâd yr is-deitl. Dengys Phillips fod yna linyn o feddwl sy'n rhedeg drwy'r holl erthyglau er mor amrywiol yw'r pynciau. Cynrychiolir y llinyn hwn gan yr is-deitl. Pwysleisir mai rhoi sylw manwl i'r penodol oedd un o brif nodweddion athronyddu Wittgenstein. Dylid bob amser wrth athronyddu, yn 81 Wittgenstein, dalu sylw i fanylion. Dylid edrych yn fanwl ar sut y mae iaith yn cael ei defhyddio mewn sefyllfaoedd penodol. Ac os gwneir hynny, gwneir llawer i osgoi gorsymleiddio a'r dryswch meddyliol hwnnw sydd, mor aml, wrth wraidd systemau a damcaniaethau athronyddol cyffredinol. Bu Cora Diamond, awdur y cyfraniad cyntaf i'r llyfr, yn dysgu dros dro yn Abertawe ar ddechrau'r 1960au. Cofiaf iddi y pryd hynny, fel darlithwraig ifanc, ddarllen papur i'r 'Phil Soc' ac yn honni ynddo fod peiriannau yn gallu siarad! Y noson honno bwriodd Rhees ati i wneud sylwadau ysgrifenedig ar ei phapur a thrannoeth dosbarthodd hwy ymhlith y darlithwyr a'i fyfyrwyr dan y teitl 4Machines and Speech'. Deil y nodiadau hynny yn fy meddiant. Tybiaf i Diamond ddysgu oddi wrthynt oherwydd yn ei chyfraniad i'r llyfr hwn, dadleua'n hollol i'r gwrthwyneb i'w safbwynt cynnar. Yma, honna'r Athro Diamond: 'saying something belongs to a life with words: rules of grammar belong to, are part of, have their identity in, such a life'. Nid oes bywyd gan beiriannau! Rhan o fwriad Diamond yw cywiro rhai camddehongliadau o waith diweddarach Wittgenstein megis rheiny o eiddo Dummett a Kripke. Y mae'r rhain,