Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RUSH RHEES (1905-89) A'R GYFROL I'W ANRHYDEDDU Wittgenstein: Attentìon to Particulars. Essays in Honour of Rush Rhees (1905-89) Gol. D.Z. Phillips a Peter Winch. Macmillan 1989, 205 tt., £ 35. Bu Rhees farw yn 1989. Treuliodd chwe mlynedd ar hugain o'i yrfa academaidd yn Abertawe — 0 1940 nes ei ymddeoliad yn 1966. 'Roedd ef yn un o gyn-ddisgyblion Wittgenstein a thros y blynyddoedd tyfodd cyfeillgarwch agos rhwng y ddau athronydd. Ar ôl i Rhees ddod i Abertawe, ymwelodd Wittgenstein yn gyson å'r lle er mwyn trafod athroniaeth gyda Rhees. Edmygai Wittgenstein alluoedd meddyliol Rhees yn fawr. Tystiodd un person wrthyf i Wittgenstein ddweud wrtho mai Rhees oedd y meddyliwr gorau a adnabuasai erioed. Mae hwn yn ddweud rhyfeddol o gofio i Wittgenstein adnabod athronwyr megis Frege, Russell a Moore. Ond ni thybiaf fod Rhees yn llai o athronydd nag un o'r rhai hyn. Gall yr honiad hwn, efallai, ymddangos yn ormodiaith i'r rheiny na ddaethant i gysylltiad personol â Rhees. Deallaf ymateb felly oherwydd ni theithiodd Rhees lawer ar hyd a lled y wlad i ddarlithio ac nid yw ei gyhoeddiadau personol mor niferus A hynny. Ond y mae rheswm da dros brinder ei gyhoeddiadau ei hun: canolbwyntiodd ei ymdrechion bron yn llwyr ar olygu a chyhoeddi cyfrolau ac erthyglau lawer o waith Wittgenstein. (Y mae hyn yn esbonio, yn rhannol, paham mai Wittgenstein yw teitl y gyfrol hon o deyrnged i Rhees.) Ond gadawodd Rhees wmbredd o'i waith ei hun ar ei ôl a chyhoeddir hwn maes o law. A phan ddaw'r gwaith yn hysbys, 'rwy'n gwbl argyhoeddedig y daw gwir fawredd Rhees yn amlwg i lawer na chawsant yr anrhydedd o'i adnabod yn bersonol. Credaf fod Rhees yn enaid mawr ac yn feddyliwr anghyffredin. 'Roedd yn fawr ei ofal dros ei fyfyrwyr. Er enghraifft, 'roedd yn awyddus i mi wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Pan ddywedais wrtho na chawswn grant i wneud gradd arall, er nad oedd yn fy adnabod ond fel myfyriwr, gwnaeth gynnig roi pum can punt y flwyddyn o'i boced ei hun i'm cynnal gan fy rhybuddio'r un pryd i beidio dweud yr un gair wrth neb! 'Roedd hynny ar ddechrau'r 1960au. Fel meddyliwr, 'roedd gwreiddioldeb ei syniadau, newydd-deb ei feirniadaethau, ynghyd å'i ddifrifoldeb a'i ddidwylledd wrth iddo ymgodymu A chwestiynau athronyddol, yn gwneud y pwnc bob amser yn fyw a ffres i'w fyfyrwyr a'i wrandawyr. Cefais yr argraff cyson ei fod yn meddwl a dadansoddi ar lefel llawer dyfnach nag unrhyw athronydd cyfoes arall y gwyddwn amdano. Os oedd Rhees mor fawr A hyn, gellir dychmygu llawer yn holi paham yr arhosodd yn Abertawe. Paham na symudodd i borfeydd academaidd brasach? Credaf fod dau reswm. Yn gyntaf, athroniaeth oedd ei fywyd a chredai na ddylai neb ymelwa ar athroniaeth drwy, dyweder, hybu ei les ei hun neu'i yrfa bersonol. Ar un adeg, bu'n rhaid rhoi pwysau ar Rhees