DYLANWAD Y BRIFYSGOL AR DDIWINYDDIAETH CYMRU MAE mwy nag un ffordd o ddeall a datblygu'r pwnc a ymddiriedwyd imi. Cystal egluro ar y dechrau felly mai fy mwriad fydd olrhain y dylanwadau syniadol ffurfiol ar feddwl a gwaith rhai o'r diwinyddion hynny a ddysgodd neu a oedd yn gysylltiedig â'r Brifysgol yng Nghymru.1 'Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, mai cyfyngu ar y maes yr wyf wrth wneud hyn, ond heb gyfyngiad o ryw fath, fe fyddai unrhyw drafodaeth oddi mewn i derfynau papur fel hwn yn gwbl amhosibl. O'r braidd y gellir trafod diwinyddiaeth heddiw heb sylwi ar yr am- heuaeth a'r sinigiaeth ynglyn â statws a gwerth y pwnc sy'n cael ei bedlera'n gyson mewn rhai cylchoedd. Wrth reswm, nid yw pethau o'r fath yn ddieithr i ddiwinyddiaeth. Y peth dieithr ac arwyddocaol erbyn hyn yw mai sgwd o ddiwinyddion, mewn ymgais onest os camarweiniol i fod yn berthnasol sy'n dadlau dros amheuaeth a sinigiaeth fel elfennau gwireddol i unrhyw ddiwinyddiaeth ystyrlon mewn oes secwlar. Gan dybio fod pob gosodiad am y goruwchnaturiol bellach yn ddiystyr, ceisir diogelu lle o hyd i ddiwinyddiaeth drwy honni mai dyn ac nid Duw yw gwrthrych cywir ei gosodiadau. Rhaid i'r diwinydd felly gyf- ieithu pob gosodiad traddodiadol am Dduw i fod yn osodiad am ddyn, gan ddehongli trosgynoldeb nid mewn unrhyw dermau arall-fydol, ond yn hytrach fel estyniad moesol neu esoteraidd o fywyd dyn yn unig. Nid yw Cymru wedi'i hynysu oddi wrth y meddwl hwn, er na chafwyd neb, heblaw'r diweddar Athro J. R. Jones, i addef y safbwynt yn ei noethni. Ond o blith y rhai sy'n ymddiddori mewn diwinyddiaeth, fe fyddai digon yn barod i ddadlau fod gweithredu'n bwysicach na chredu, ac yn anuniongyrchol ac anfwriadol, wrth gwrs, i noddi'r is-ddiwylliant cyffuriol yn ein plith, trwy ddyrchafu profiad ar draul proffes. Reductio ad absurdum safbwynt o'r math yw'r honiad a glywir mor fynych mai angen pennaf myfyriwr diwinyddol heddiw yw mwy o seicoleg a chym- deithaseg a llai o ddiwinyddiaeth Mae'n werth cofio rhybudd Barth mai un o beryglon parotaf diwinyddion yw cymryd gwerthfawrogiad y byd ohoni'i hun yn rhy ddifrifol. Pan syrthir i'r brofedigaeth honno, fe gyll y diwinydd bob synnwyr digrifwch, a'i rwystro rhag gweld absyrditi'i ddadleuon ei hun. Ond nid dros nos y datblygodd y sefyllfa hon. Wrth drafod y pwnc a roddwyd imi, nid anheg felly fydd holi ym mha ffordd y daeth diwinydd- *Mae fy nyled yn fawr i'r Prifathro R. Tudur Jones am lawer sgwrs ynglŷn â'r cefndir am ei ysgrif ar Diwylliant CoIegau Ymneilltuol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg". (Tsgrifau Beirniadol, T. Gol. J. G. Caerwyn Williams) a'i lyfr Diwinyddiaeth ym Mangor sy'n crynhoi'r cefndir hanesyddol.