Gadewch imi ddyfynnu Ddydd Mawrth diweddaf (sef Hyd. 15, 1872), cynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus i ddathlu y digwyddiad. Yr oedd y diwrnod yn cael ei gadw fel dydd o ŵyl gyffredinol yn y dref-pob busnes, o'r bron, wedi ei attal am y diwrnod. Yr oedd y pier wedi ei addurno o'r naill ben i'r IlaIl â banerau gwychion, ac ym mhob cwr o'r dref hefyd gwelid arwyddion anghamsyniol fod rhywbeth mawr, pwysig, ac anghyffredin yn cymmeryd lle yn y dref y diwrnod hwnw. Rhan gyntaf y cymhelri oedd brecwast,-boreubryd cysurus am hanner dydd a gynhelid yn ystafell giniawa fawr y coleg, wedi ei baratoi gan Mr. Pell, o'r Belle Vue Hotel." Nid o ewyllys Hugh Owen na Phwyllgor darbodus y Coleg y daeth hyn ond o haelioni ac ymdeimlad trefwyr Aberystwyth eu hunain fod rhywbeth nid annhebyg i wyrth yn digwydd yng nghragen hanner agored gwesty'r Castell-gwesty relweddol methedig -y bore hwnnw. 'Roedd yn frecwast brwd. Siaradwyd yn faith a huawdl gan rai o Gymry amlycaf eu hoes-a chan rai heb fod mor amlwg. Soniodd Henry Richard am hen draddodiadau hynod y Cymry mewn diwylliant ac addysg a chyfeirio at Gaerlleon a Bangor-is-y-Coed lle'r oedd, meddai ef, gymaint â 2,400 o fyfyrwyr yn astudio crefydd a diwinyddiaeth mewn cyfnod annhebygol. Aeth ymlaen i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dadlennu fel yr oedd y prifysgolion Albanaidd yn derbyn £ 16,000 y flwyddyn gan y Llywodraeth at eu cynhaliaeth a phrifysgol Llundain yn derbyn [9,577. Yn wir, yr oedd Glasgow newydd gael chwech ugain mil o bunnau at godi adeiladau newydd, a'r cwestiwn mawr oedd pam fod Cymru yn cael llai na neb arall ac yn cael ei gosod mewn safle mor is-raddol. Dyfynnaf eto A oedd Cymru yn llai teyrngarol na'r Iwerddon ? (" nac oedd "). A oedd yn rhoddi mwy o drafferth i'r Llywodraeth ? (" nac oedd "). Y ffaith ydoedd fod Cymru yn rhy dawel. Pe gallent gynnyrchu chwyldroad bychan (chwerthin) neu gydfradwriacth Ffenaidd, neu wrthryfel Oreinaidd, yna hwyrach y telid rhyw- faint o sylw iddynt (" clywch '). Ond nid dyna eu ffordd hwy yng Nghymru (" clywch clywch "). Nid felly yr oeddynt wedi dysgu eu dyletswyddau fel dinaswyr Saesneg, wrth gwrs, oedd iaith yr huodleddau brecwastol hyn. Aeth Richard ymlaen i ddweud fel yr oedd ef newydd dreulio chwech wythnos