CYFRANIAD Y BRIFYSGOL I WLEIDYDDIAETH AR y dechrau yn deg, mae'n rhaid imi eich rhybuddio fod y testun hwn yn un mor eang ac, i bob golwg, ansathredig fel mai trafodaeth anghyf- lawn ac impresionistaidd iawn fydd gennyf yma heddiw. Yn wir, fwy nag unwaith wrth baratoi'r sylwadau hyn bûm yn lled amau a oes yma destun ystyrlon o gwbl. Digon hawdd, wrth gwrs, fyddai mynd ati i nodi enwau ac i sôn am gyrsiau ac adrannau o'r Brifysgol sydd wedi bod yn trafod damcaniaethau gwleidyddol a chymdeithasol fel rhan o'i rhaglen academaidd a byddai'r un mor hawdd rhestru llyfrau ac amryfal lenyddiaeth esboniadol a gyhoeddwyd ganddi ar y pwnc. Ond fy nheim- lad i oedd mai nid dyma'r math o beth y dylwn ei wneud at hyn, fe syniwn yn gam neu gymwys mai am gyfraniad gwleidyddol y brifysgol i ni yma yng Nghymru y dylwn i sôn ac nid am weithgareddau ei haelodau ym mhedwar ban byd. Er enghraifft, oherwydd ei ddiddordeb mawr yng Nghynhrair y Cenhedloedd a phroblem diogelu heddwch yn Ewrop, sefydlodd teulu Llandinam gadair yma yn Aberystwyth i drafod Cyd- berthynas y Gwledydd ac am un deng mlynedd bu neb llai nag E. H. Carr yn ei dal. Ond prin y gallwn ni gyfrif ar bwys hyn fod Carr yn rhan o gyfraniad prifysgol Cymru i wleidyddiaeth a hanes gwleidyddiaeth. Neu drachefn, bu digon o gyn-fyfyrwyr y brifysgol yn cymryd rhan gyhoeddus a digon anrhydeddus mewn gwleidyddiaeth ar hyd llinellau y pleidiau gwleidyddol Seisnig ac mae'n ddiamau y gellid llunio geiriadur bywgraffyddol digon diddorol amdanynt. Ond nid hyn ychwaith, dybiwn i, oedd corff y gainc. Yn wir, gellid troi i rai cyfeiriadau llawer mwy cyffrous na dim a fydd gennyf yma canys gwn am o leiaf un cyn- aelod o staff-wnaf i ddim dweud pa goleg-a ddaeth wedyn yn enwog a thra ffyniannus fel cynghorwr a chynlluniwr cudd ym myd creim tua Llundain 'na. Ysywaeth, nid sôn am gyfraniad y brifysgol i fyd creim yw'r testun ychwaith er na bu hi'n ddiffygiol yn y cyfeiriad hwnnw fel y gwelwch, ac er y gellid dal mai agwedd ar wleidyddiaeth yw creim wedi'r cwbwl. Yn wir, mae'n biti na buasai gan yr wythnos gymdeithasol hon Ie i un ddarlith ar gyfraniad y brifysgol i fyd y criminal proffesiynnol. Wel ynteu, ar ôl hynyna o rybudd, cystal imi ddechrau arni. Mae'r stori am agor Y Brifysgol i Gymru yn Aberystwyth, fel y ceir hi yng ngholofnau'r Faner, Hydref 19, 1872, yn atgoffa dyn 0 linell gyntaf Ynysyr Hud gan W. J. Gruffydd 'Roedd pob cerpyn ar i fyny a'r holl gyrt yn dyn fel tannau".