ADOLYGIAD Rhagom i Ryddid gan Gwynfor Evans. Cyhoeddiad Plaid Cymru, Bangor, 1964. Tudalennau 141 Pris 10s. Od. Fel y dywed yr awdur yn ei Ragair, ymgais yw'r llyfr hwn i gyflwyno safbwynt y cenedlaetholwr Cymreig. Ysgrifennwyd ef ar gyfer y genhedlaeth ieuanc y mae dyfodol iaith a diwylliant Cymru yn dibynnu arni. Gwahaniaetha'r awdur rhwng cenedl a gwladwriaeth gan wneud y wladwriaeth yn is-wasnaethgar i'r genedl a chymdeithas. Y gwerth pennaf yw personau unigol; swyddogaeth teulu, cymdeithas, cenedl a gwladwriaeth yw creu amodau ffafriol yn economaidd a diwylliadol i hyrwyddo tyfiant llawn personau unigol yn feddyliol ac ysbrydol. Y mae'r diwylliant Cymreig yn diogelu gwerthoedd sy'n gwareiddio dyn ac yn hyrwyddo'r tyfiant yr anelir ato, ond o dan y drefn Seisnig y mae'r bywyd hwn yn prysur edwino. Rhydd yr awdur ddadansoddiad o ganlyniadau'r drefn Seisnig fel y gwel cenedlaetholwr hwynt. Er y gallai Cymru gynnal deirgwaith ei phoblogaeth bresennol, eto lleihau y mae nifer ei phobl am nad oes ymdrech i'w datblygu caeir y rheilffyrdd (er y gallent dalu eu ffordd yng Nghymru) ac nid oes gan Gymru yr un filltir o ffordd fodur. Ceir darlun o helynt blin dyffryn Trywe- ryn, a honnir nad i'w yfed yr oedd Lerpwl eisiau'r dwr ond ar gyfer diwydiant, fodyrAelodau Seneddol Cymreig oherwydd eu teyrngarwch i'r Pleidiau Seisnig wedi methu diogelu hawliau Cymru fel cenedl, a bod y Gweinidog dros Fat- erion, Cymreig yntau hefyd wedi methu (neu heb geisio). Yr unig feddyginiaeth, medd yr awdur, yw hunanlywodraeth ac ar y Cymry y mae'r bai am nad oes ganddynt hunanlywodraeth pe'i ceisient yn unfryd gan y Saeson fe'i caent. Nod Plaid Cymru yw safle Dominiwn i Gymru; ni chredodd erioed y dylai geisio am sofraniaeth; rhyddid cenedlaethol yng Nghyfundod y Cenhedloedd yw ei nod. Ymdrinia'r awdur yn helaeth â'r dadleuon gwleidyddol ac economaidd perthnasol i hunanlywodraeth, ynenwedig y ddadl nad yw Cymru'n economaidd hunan-ddigonol; ymddengys ei wrth- ddadleuon ef yn argyhoeddiadol iawn. Honnir mae unig ymateb y Pleidiau Seisnig i achos y Blaid yw ceisio ei mygu drwy wahardd iddi gyflwyno'i hachos ar y Radio a'r Teledu, a rhoir darlun o'r frwydr i geisio sicrhau yr hawl hwn. Y mae'r llyfr wedi ei ysgrifennu'n glir a chytbwys a'r ddadl yn hawdd ei dilyn o'r bennod gyntaf i'r diwedd. Rhagdybir mai tyfiant llawn, amlochrog personau unigol yw'r gwerth uchaf (gosodiad y cytunai pawb ag ef mae'n debyg) ac yna maentumir fod colli iaith, diwylliant a thraddodiadau ei genedl ei hun yn golled fawr i'r Cymro, colled a all amharu ar y twf yr anelir ato (gosodiad na chytuna pawb ag ef fel y dengys cyflwr ein cenedl heddiw). Dyma'r union beth sy'n digwydd dan y drefn Seisnig, tlodir ein cenedl yn economaidd a diwylliannol. Prif fyrdwn y llyfr yw'r feddyginiaeth a gynigia'r cenedlaetholwr mewn economeg a diwylliant, ond rhaid perswadio'r genedl i ddechrau ei bod yn glaf a chreu ynddi awydd gwella o'i chlefyd sydd at farwol- aeth os pery, fel y gwel yr awdur yn glir. Nodwedd a amlygir drwy'r llyfr i gyd, mi gredaf, ac yn enwedig yn y bennod ar Dryweryn yw cynildeb a boneddigeiddrwydd yr awdur nid yw fyth yn euog o ormodiaeth nac anghyfrifoldeb pan yn cyflwyno'i safbwynt ei hun neu yn beimiadu syniadau pobl eraill. Pa un bynnag ai cytuno neu anghytuno a wneir â dadl yr awdur, rhaid gwneud hynny wedi inni archwilio'r ffeithiau drosom ein hunain a myfyrio ar eu harwyddocâd ac nid mewn anwybodaeth a rhagfarn. I'r sawl a gâr Gymru ac a gred fod gwerth yn y diwylliant Cymreig llyfr yw hwn i gytuno neu anghytuno ag ef wedi ystyriaeth fanwl a theg, ond yn sicr ddigon nid llyfr i'w anwybyddu. Caergrawnt. IOLO WYN LEWIS.