RHAI AGWEDDAU O FEDDWL PANTYCELYN Yr ydym ni'r Cymry'n tybio'n bod ni'n gyfarwydd iawn â Phanty- celyn. 0 leiaf fe fu'n tadau, ac yr ydym ninnau, beth bynnag am ein plant, yn dra chynefin â rhai ugeiniau o'r wyth gant a mwy o'i emynau Cymraeg, ac ynddynt fe geir craidd ei grefydd bersonol. A'r emynau hyn fu'n brif gyfrwng yn y gwaith o lunio ymatebion crefyddol y Cymro Cymraeg am ddwy ganrif. Yn emynau Pantycelyn y cyflwyn- wyd i bob cenhedlaeth ar ôl ei ddydd rywbeth o wefr y cyffroadau a luniodd gymaint ar y Gymru Gymreig werinol a chrefyddol y magwyd ni ynddi. Y mae'n bwysig iawn felly i ni Gymry ddeall Pantycelyn orau y medrom, er mwyn ceisio'n deall ein hunain. Credaf mai'r astudiaethau pwysicaf arno ef a'i waith yn ystod y ganrif hon yw llyfr Mr. Saunders Lewis, ynghyd ag adolygiad treiddgar y diweddar Barch. Keri Evans arno yn Yr Efrydydd, dwy gyfrol y Parch. Gomer M. Roberts ac astudiaethau Mr. Alwyn Prosser yn Llen Cymru. Yr oedd Pantycelyn yn sgrifennwr toreithiog iawn, ac eto nid oedd y Uu llyfrau a llyfrynnau ond rhan yn unig o'i weithgarwch anhygoel. Cafwyd hefyd y teithio a'r pregethu cyson a'r diwydrwydd mawr wrth drefnu a holi seiadau. A'r darllen aruthrol mewn llawer maes eang, o seryddiaeth a meddyginiaeth i bob math o lyfrau teithio a disgrifio holl arferion y ddynoliaeth, gan gynnwys bwydydd a gwisgoedd ac adeiladau, heb sôn am bethau'r enaid,' o eithafion Japan, a thrwy Asia ac Affrica ac Ewrop, hyd at drigolion pellafoedd America ar lannau'r Tawelfor. A'r un awch ac asbri i'w gweld trwy'r cwbl. Yr oedd â'i lygad ymhob man, ac yn annisgwyl iawn fe ddown o hyd i sylwadau craff ar bob math o bethau gan gynnwys pethau mor annhebyg i'w gilydd â phroblemau rhyw a chychwyniad diwydian- naeth yng Nghymru. Er pwysiced yr emynau fe gyfansoddwyd y rhan fwyaf o ddigon ohonynt flynyddoedd cyn iddo lunio rhai o'i lyfrau rhyddiaith pwysicaf. Y mae'r rhyddiaith yn fwy amlweddog, ac fe'i cawn yno yn ymdrin ag agweddau o fywyd ac a phroblemau nad oedd iddo gyfie i'w trafod yn yr emynau. Doniol iawn yw clywed Pantycelyn yn cwyno mewn gwaith diweddar fod llawer yng Nghymru bellach yn tybio nad yw crefydd yn ddim byd ond canu emynau Ateb fy nghyfaill, y Parch. Meirion Roberts, pan soniais wrtho am hyn, oedd Beth oedd gynno fo i ddeud am hynny onid arno fo y mae'r bai ?" Bwriwn olwg tros y prif rai'n unig o'i gyhoeddiadau. Fe'i ganed ym 1717, a bu farw ym 1791 yn 74 oed. Dechreuodd gyhoeddi emynau yn 27 oed, ac o'i bum casgliad pwysig fe ymddangosodd ped- war ohonynt erbyn iddo gyrraedd y chwech a deugain, sef yr Aleluja,