Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hwn, yn cyfranogi o holl nodweddion digwyddiaeth mewn gofod- amser. Y mae'n rhaid gofyn yn awr a yw digwyddiaeth ynddo'i hun yn gwneud yr hyn a ddigwydd yn ddigwyddiad hanesyddol. Y mae'r ateb, yn fy marn i, yn ddiamwys negyddol. Ni ellir disgrifio'r ffaith fod tonfedd golau yn gadael seren filiynau o flynyddoedd-golau i ffwrdd oddi wrthym ac yn ein cyrraedd yn awr fel ffaith hanesyddol, er y dichon i'r darganfyddiadau trwy wyddor seryddiaeth a wnaeth y cyfryw ddisgrifiadau yn bosibl yn hawdd fod yn ddigwyddiadau hanesyddol. A rhag inni dybio, oddi wrth yr enghraifft hon, mai pellter oddi wrth fywyd dynol sy'n amddifadu digwyddiadau o gymeriad hanesyddol, y mae rhai digwyddiadau, yn wir nifer fawr, sy'n ffrwyth gweithgarwch dynol, na ellir yn briodol eu galw yn ddigwyddiadau hanesyddol. Gall hyn fod yn wir hyd yn oed pan fyddo'r cyfryw ddigwyddiadau o'r pwysigrwydd mwyaf i'r bobl sydd ynglyn â hwy. Y mae geni, priodi a marw yn ddigwyddiadau o arwyddocâd sylfaenol i'r rhai y digwydd hyn iddynt, ond anfynych mewn cymhariaeth y priodolir i'r digwyddiadau hyn bwysigrwydd hanesyddol. Yn wir gall yr un person weithredu ar un achlysur mewn dull cwbl amddifad o arwyddocâd hanesyddol, ac eto ar yr un dydd gyflawni gweithred y darllenwn amdani yn ein llyfrau hanes. Y mae'n bosibl fod Adolf Hitler wedi cribo'i wallt ar fore'r dydd y gorch- mynnodd i'r Luftwaffe ymosod ar Warsaw, a thrwy hynny osod Ewrob a'r byd ar dân. Fe ymddengys oddi wrth yr hyn a ddywedwyd gen- nym ei bod yn ofynnol i ddigwyddiad, er mwyn cael ei gyfrif yn ddigwyddiad hanesyddol, feddu rhyw arwyddocâd i fywyd dyn, er nad yw pob digwyddiad o'r fath yn hanesyddol yn rhinwedd hynny yn unig. Y mae ystyriaeth bellach a all ein dwyn ychydig yn nes at eglurder yn y mater hwn. Ni ellir, bob amser, adnabod digwyddiadau fel digwyddiadau hanesyddol arwyddocaol pan ddigwyddant. Problem wiw yw'r broblem a feddant y cymeriad hanesyddol hwn pan ddi- gwyddant, neu a enillant y cyfryw nodwedd pan edrychir yn ôl arnynt yn ddiweddarach. Y math o ddigwyddiadau sydd gennyf mewn meddwl ydyw'r gweithrediadau masnachol neu ariannol hynny a groniclir, dyweder, yng nghofnodion mynachlogydd cofnodion a ymddangosent, y mae'n rhaid, pan ddigwyddent yn bethau cwbl amddifad o arwyddocâd hanesyddol. Yng ngolwg yr hanesydd, fodd bynnag, y mae i'r digwyddiadau hyn radd o bwysigrwydd sy'n eu gwneud yn anhepgor i'r gwaith o ad-greu hanes cymdeithasol eu cyfnod. Ni allwn ninnau ychwaith ddogmateiddio ymlaen llaw yng- hylch pa ddigwyddiadau yn ein dydd a ddichon ennill, neu beidio ag ennill, arwyddocâd tebyg yng ngolwg haneswyr y dyfodol. Aw-