MORALS AND THE NEW THEOLOGY, gan H. D. Lewis. Gollancz, Llundain. 1947. Tud. 160. Pris 7/6. Nid wrth ei faint, o bell ffordd, y mae mesur gwerth y llyfr bychan amserol hwn. Ni ellid yn hawdd feddwl am destun pwysicach, na gwella ar yr ymdrin- iaeth hon â'r testun hwnnw — ymdriniaeth a fwriadwyd yn y lIe cyntaf ar gyfer y lleygwr" deallus, ond sydd hefyd yn ddiddorol ac ysgogol i'r arbenigwr yn y maes hwn. Gyda'i gymwysterau technegol hynod at drin y pwnc, y mae gan Mr. Lewis hefyd ddifrifwch moesol ac ysbrydol-bron na ellid ei alw'n ymdeim- lad o genhadaeth — sy'n tanio'r hyn a ddywed ac yn dyblu gafael ei ymresymiad. Wrth y term "the New Theology,"ni olygir yn y llyfr hwn mo'r "rhyddfryd- iaeth anturus a frawychodd ein tadau gynt a'i dehongliad dilyffethair o ysgrythurau a chredoau. Gwir mae dyna ystyr naturiol y term hyd yn gym- harol ddiweddar. Eithr i'r diwinydd heddiw, nid yw'r ddiwinyddiaeth honno ond hen gân. Iddo ef, fe ddaw'r her i'r meddwl diwinyddol (o leiaf, yr her oddi mewn i gylch diwinyddiaeth bur), o gyfeiriad Diwinyddiaeth Newydd newydd — o'r ddysgeidiaeth a gysylltir yn bennaf ag enwau Karl Barth ac Emil Brunner a Reinhold Niebuhr. Ar ryw ystyr, ei henaint yn bennaf sy'n gwneud y ddiwinyddiaeth hon yn newydd.' Fel y sylwa Mr. Lewis, y mae ynddi (yn arbennig amlwg yn ei hymdriniaeth â chyfrifoldeb personol) atgyrchiad at gyfundrefn gyntefig o syniadau a fu ers llawer dydd yn wrthnaws hyd yn oed i'r diwinyddion pellaf oddi wrth safbwynt "rhesymoliaeth ryddfrydig". Nid oes unrhyw amheuaeth o'r grym, yr egni, y medr dialechdegol, a nodwedda'r adfywiad hwn o'r hen syniadau, nac o lwyddiant ei apêl at genhedlaeth nad oes ganddi (rhaid addef) nemor Ie i ymhoffi yn yr athrawiaeth o Gynnydd Dyn. Eithr ym marn Mr. Lewis, serch bod yn y Ddiwinyddiaeth Newydd hon el- fennau o werth parhaol, ni ellir llai nag ystyried ei dylanwad yn alarus yng ngolwg unrhyw ddyn a gred y gall (ac y dylai) crefydd ddygymod â datganiadau ymwybyddiaeth foesol a deallol onest-" dygymod â hwy, wrth gwrs, nid bod yn gyfystyr â hwy. Ymhlygiadau'r Ddiwinyddiaeth Newydd ym myd moesau yw priod destun Mr. Lewis yma. I hwyluso'i ffordd, delia'n fyr ond yn ofalus â safle Moeseg, gan amddiffyn hawl yr egwyddor foesol i'w hannibyniaeth wrthrychol gynhenid. Rhaid oedd iddo wneud hyn. Oblegid y mae'r sawl sy'n credu (fel y cred arweinwyr y Ddiwinyddiaeth Newydd, i bob golwg) mai unig sail Moeseg yw crefydd, yn chwannog i'w perswadio eu hunain (ac eraill hefyd, ysywaeth) nad yw'n unrhyw niwed i grefydd nac i wirionedd pan fo'r olwg grefyddol ar y byd- ysawd yn torri'n llwyr ar draws tystiolaeth egluraf yr ymwybyddiaeth foesol gyffredin. Sut y gallai niwed ddilyn hynny, pe na bai gan yr ymwybyddiaeth foesol unrhyw hawl i fod o gwbl oddieithr i'r graddau y mae hi'n tarddu allan o grefydd ? Dyna, meddai Mr. Lewis, yw'r ymresymiad a gymerir bob amser yn ganiatol, ac yn wir a gyhoeddir yn hollol groyw'n aml ddigon yng ngweith- iau'r Diwinyddion Newydd. Yn wir, y mae'r ymresymiad yn anorfod os ydym i wneud unrhyw synnwyr o'r ddeuoliaeth ddigymrodedd yn eu dysgeidiaeth hwy ar berthynas y Dwyfol a'r Dynol. Yna, mewn penodau rhagorol a chyda chyfeiriadau llawn, dengys Mr. Lewis yn fanwl inni sut y mae gwahanol athraw- iaethau'r Ddiwinyddiaeth Newydd yn gwneud cwbl gawl o syniadau mwyaf hanfodol moesoldeb. Nid newid cynnwys moesoldeb, gan newid gwerth gwerthoedd sydd yn yr athrawiaethau hyn, eithr llwyr ddileu'r bywyd moesol cynhenid gan ymwrthod â'i gynseiliau. Dau ddewis sydd gennym. Naill ai y mae'n rhaid inni gredu, gyda'r moesegwyr, fod gennym ni, fodau meidrol, wir allu (o fewn terfynau, bid sicr) i ddewis rhwng da a drwg ein bod yn deilwng neu'n annheilwng yn ôl y graddau y llwyddwn ncu'r aflwyddwn i ymgyrraedd at