YR ATHRO D. JAMES JONES 1887 1947 (Tsgrifennydd yr Adran Athronyddol, 1932-47). YR oedd i fywyd yr Athro James Jones lawer cyfnod. Y cyfnod olaf oedd y naw mlynedd y bu'n Athro ym Mangor, ac yr wyf yn credu y buasai ef ei hun yn ystyried yr ysbaid hon fel coron ar fywyd o feddwl dwys a gwasanaeth llawn. Yr oedd yn edmygydd calonnog o Syr Henry Jones, yr Athro Athroniaeth cyntaf ym Mangor, a phan benodwyd ef i'r Gadair — Cadair Henry Jones — fe gyffyrddwyd â'i deimladau dyfnaf, a bodloni, mi gredaf, ei brif uchelgais. Yn ystod ei flynyddoedd olaf ymdaenodd cysgod afiechyd fwyfwy dros ei fywyd ymladdodd yn ei erbyn â dygnwch tawel, siriol. Yr oedd yn gynefin â'r cysgod hwnnw; yr oedd wedi ymladd yn ei erbyn a'i chwalu o'r blaen. Nid ofnai mohono, oherwydd cynhelid ef gan ffydd grefyddol gadarn a barai ei fod yn gallu gosod byr gyfnod bywyd dyn y tu mewn i ffrâm ehangach, y tu mewn i'r cyfan diamser, tra- gywydd. Gallai yntau ddywedyd, fel Emily Brontë, Faith shines equal, arming me from fear Buan y daethom ni, a weithiai gydag ef o ddydd i ddydd, i werth- fawrogi ei rinweddau. Yr oedd ynddo wir urddas cymeriad, nid rhyw urddas gwag, ffurfiol. Tarddai ei hunanfeddiant o hunanreolaeth lem. Yr oedd ffrwd gref o deimlad dwys yn y dyfnder, ond anfynych y codai i'r wyneb. Yr hyn a ddangosai ef i'r byd oedd rhyw urddas tawel, digyffro, rhadlon. Yr oedd iddo heddwch y gwr o argyhoedd- iadau cryfion, gwr a orfu ar amryfal dymhestloedd-tymhestloedd amgylchiadau y tu allan ac anturiaethau'r deall y tu mewn. Ac felly fe'i hangorwyd wrth graig ddiysgog. Dyna hefyd ei gariad at ei ddiwylliant Cymreig cynhenid, a'i fawr awydd i'w helaethu a'i ddyfnhau. Yn ei gyfraniadau ei hun, ei lyfrau a'i erthyglau ar bynciau athronyddol, ac wrth gydweithredu ag eraill, ar fyrddau golygyddol, ar bwyllgorau, ac mewn ymddiddan cyfeillgar, ei amcan oedd gwneuthur yr iaith Gymraeg yn offeryn cwbl gymwys i fynegi meddyliau dwfn mewn athroniaeth, diwinyddiaeth a chang- hennau eraill gwybodaeth. Yr oedd yn argyhoeddedig y gellid gwneuthur hyn, ac y dylid ei wneuthur y dylai Prifysgol Cymru draethu ei meddwl mor groyw ac mor ffyddiog yn Gymraeg ag yn Saesneg. Ymhyfrydai bob amser mewn bathu geiriau. Dyna eto ei ymdeimlad cryf â dyletswydd gymdeithasol. Dôi hyn i'r golwg yn glir yn ei ogwydd athronyddol, oherwydd ymddiddorai'n bennaf mewn athroniaeth foesol a chymdeithasol, ac wrth gwrs mewn