Mynych y bydd bodolaeth y drwg yn swmbwl yng nghawd damcaniaethau Theistaidd. I Laird nid yw bod peth dioddefaint a phechod yn y byd yn anghyson â threfn ddaionus natur, eithr, ebr ef, anghydwedd y drwg â bodolaeth Duw sy'n foesol dda a hollalluog. Eto, nid yw'n gwbl glir fod pechod (h.y. drwg moesol), er enghraifft, yn anghyson â bodolaeth Duw hollalluog a doeth. Ffrwyth rhyddid moesol yw pechod. Am hynny problem rhyddid moesol yw problem pechod yn y gwaelod ac nid yw'n amhosibl mai yn ei ddoethineb y rhoes yr Hollalluog ryddid moesol i ddyn. Ac onid yw'n bosibl hefyd fod y rhyddid hwn yn hawlio cydnabod fod Duw yn hollalluog er mwyn esbonio'i fod? Prif sail y gred mewn Duw personol yw tystiolaeth profiad crefyddol. Cyffes Laird yw na fedd ef brofiad o'r fath o gwbl. Buasai wedi'i ddefnyddio, meddai, petai'n ei feddu. Ond a yw ei amddifadrwydd ef yn ddigon o reswm dros ei anwybyddu ? Yn wir, a eill yr athronydd fforddio'i anwybyddu ? Od oes gan grefydd dystiolaeth, rhaid i'r athronydd ofyn ai dilys yw, ac, os dilys, yna rhaid iddo wneuthur cyfrif o'r dystiolaeth honno, o waith mai honni cyfathrach â Duw personol, gan amlaf, a wna'r crefyddwr. Os gwir yr honiad yma, y mae'n ofynnol credu yn uwchfodaeth Duw, ac nid hwyrach gydnabod "personol- iaeth'' fel categori sy'n dipgelu'r uwchfodaeth honno. Yn wyneb ei amddifad- rwydd crefyddol rhydd Laird ei bwys ar dystiolaeth crefydd naturiol'' sydd gyfystyr iddo ef â synnwyr cyffredin y gwr rhesymol. Amlwg yw, serch hynny, y rheolir ei holl ymdriniaeth gan y syniad o'r Dirfod fel yr ens realissimum- y Bod rheidiol y rhydd ei briodoleddau esboniad ar drefn y bydysawd. Sut bynnag y bydd mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos mai cwbl foddhaol a fydd ein Theistiaeth, oni chanfyddom yn y Dirfod gymeriad Duw ac yn Nuw ffunudrwydd y Dirfod. Eto, yn Mind and Deity cawn olwg glir ar derfynau ac adnoddau'r Theistiaeth sy'n ddichonadwy heb ystyried tystiolaeth crefydd ei hun, ac nid hollol brin mo gynhysgaeth y Theistiaeth honno. Hi fedr, ond odid, ysbrydoli bardd yn y maes pryd na allo fodloni sant ar ei liniau. JJangywair. EUROS BOWEN. THE PHILOSOPHY OF DAVID HUME gan Norman Kemp Smith, D.Litt., LL.D., F.B.A., Llundain, Macmillan a'i Gwmni, Cyf. 1941. tt. xxiv a 568._ 25s. Prif nodwedd y llyfr rhagorol hwn yw'r ymdrech i glirio Hume o'r cyhuddiad arferol mai Amheuaeth yw canlyniad anochel ei athroniaeth. Cwyna Kemp Smith mai cam a wnaed a Hume gan ddisgrifiad Reid a Beattie o'i ddysgeid- iaeth — disgrifiad a dderbyniwyd gan Green a phawb arall bron. Yn ôl yr esboniad hwnnw, unig gyfraniad Hume oedd datblygu athrawiaethau Locke a Berkeley i'r eithafbwynt amheuol. Dadl ddiddorol Kemp Smith yw mai oddi wrth Newton a Hutcheson y tynnodd Hume ei ysbrydiaeth a bod eu dylanwad o leiaf mor drwm arno ag eiddo ei gyn-empeirwyr. Oherwydd hynny, nid negyddol ac amheuol ydyw yn y gwraidd ond yn gadarnhaol, naturiaethol a dyneiddiol yn ei dueddiad Mae'n wir i Hume gyfyngu sicrwydd rhesymol i gylch perthynas syniadau, e.e. Rhifyddiaeth, ond fe ddeil, medd Kemp Smith, fod yno sicrwydd arall sy'n llawn mor bwysig a dardd oddi wrth y teimladau. "Trwy borth ei Foeseg y daeth Hume i mewn i Athroniaeth Fel yn ei Foeseg, felly yn ei ddysgeidiaeth am natur gwybod rhaid i reswm fod, ac felly y dylai fod, yn gaeth i'r teimladau Dyna hanfod dysgeidiaeth Hume am Gredu' a hwn yw'r peth canolog yn y Treatise. Cysylltir y ffordd ragorach hon o gyrraedd sicrwydd â bywiogrwydd yr "argraffiadau a chwery'r