dim newydd at y syniad o'r gwrthrych hwnnw. Nid oes rhagor rhwng synied am Dduw a synied amdano ei fod yn bod. Ymdrinir wedyn â gosodiad Hegel mai un yw Bod a Meddwl. Eithr, medd ef, datganiad mawreddog ynghylch Bod yw hynyma o'r eiddo Hegel, ac nid dim ar wedd prawf; y mae'n anwybyddu dadl Kant mai traethiad afreal yw bodolaeth — nid priodoledd mohoni. Eto, cydnebydd y dichon y datganiad ontologaidd yma o'r eiddo Idealaeth Absolwt fod ar ryw ystyr yn ddatganiad o fodolaeth Duw, nid fel Cynllunydd y mae'n rhaid gwahaniaethu rhyngddo a'r cyfanfyd, ond fel yr ens realissimum—y Bod Diriaf. Yna rhydd sylw i natur y meddwl, a deil fod pob ymwybod yn dros- gynnol ac yn adfyfyriol, a chasgl nad oes rhesymau digonol dros gredu fod popeth sy'n bod yn meddu ar ansawdd ymwybodol. Gan hynny, nid yw Idealaeth neu'r athrawiaeth mai meddwl neu wneuthuriad y meddwl yw popeth sv'n bod yn ddisgrifiad boddhaol o holl natur Dirni. A ellir credu mewn Bod hollwybodol ? Os yw'r nodwedd adfyfyriol a berthyn i ymwybod dyn yn brawf fod elfen breifat yn ei natur, nid yw'n annichon fod hynyna'n gyfyngiad a'r hollwybodaeth Duw. Dichon hefyd nad popeth sy'n bod yw popeth y gellir ei wybod. Am hynny, petai Duw yn meddu gwybod- aeth o bopeth y gellir ei wybod, nid yw'n canlyny byddai'n ymwybod â phopeth sy'n bod. Tybed a fedd y Dirfod bersonoliaeth ? A yw'n bosibl synied am y Cyfan o fod mai'r Goruchaf Dduw yw ? A ellir credu ym modolaeth Un sy'n annherfynol a hefyd yn bersonol ? Deil ef nad anghredadwy yw personoliaeth ddwyfol, ond mwy credadwy ganddo yw Dirfod amhersonol. Gellir meddwl am ragluniaeth," felly, fel darpariaeth gyfiawn yn hanfod yn natur pethau yn hytrach na dylanwad personol Duw grasusol. Nid arwydd o weithgarwch Duw yw trefn ddaionus y cyfanfyd. Yn wrthwyneb i hyn, Duw ei hun yw'r Drefn, ac y mae cydnabod y Drefn ddaionus yma'n Theistiaeth, serch mai Theistiaeth amhersonol ydyw. Â yn ei flaen i ymdrin â'r gosodiad na ellir gwahanu "bodolaeth" a "gwerth," gan ymresymu mai ffurf arbennig yw hynyma ar y prawf ontologaidd. Nid cyfreithlon yw maentumio, meddai, mai ystyr bod yw bod o werth neu bod yn ddilys". Sut bynnag am hynny, petai'n wir fod ymwybod gan Un neu gan liaws â phopeth sy'n bod yn bosibl mewn rhyw ystyr neu'i gilydd, yna gellid, er enghraifft, ddatgan, 11e y bo dichon hynny, fod popeth sy'n bod naill ai'n wir neu'n anwir. Byddai popeth sy'n bod, gan hynny, yn meddu ar werth neu anwerth, ac o ganlyniad colli'i grym a wnâi dadl Laird ar y pen yma. Yna, try i ystyried profion moesol Theistiaeth, a sylwi'n fwyaf neilltuol ar y dyb mai gorchmynion yw egwyddorion moesol. Ar sail y dyb yma dadleuir yn am1 fod gorchymyn yn goblygu gorchmynnydd, ac, am hynny, fod yn rhaid bod Duw yn bod fel awdur y gorchmynion moesol. Eithr y mae'n casglu nad gorchmynion yw'r egwyddorion yma. Erbyn diwedd y daith cawn ei fod yn credu fod rhywbeth dwyfol ymhob peth sy'n bod a rhywbeth dwyfol yn y Cyfan". Y mae'n croesawu ffurf ar Bantheistiaeth, canys digonol iddo yw mewnfodaeth y dwyfol heb fod angen cydnabod ei uwchfodaeth. Damcaniaeth Natura sive Detts a fyn ef, er nad yw natur iddo yn Annuw. Cred nad anymarferol nac annigonol chwaith yw cyfieithu ein Theistiaeth o iaith bersonol i iaith amhersonol. Ond a ellir trosi'n gwbl deg o'r naill i'r llall ? A oes posibl, er enghraifft, drosi achosiaeth fwriadus yn llwyr i iaith achosiaeth beiriannol heb newid dim ar yr ystyr ? Pa mor fedrus neu ddiffuant bynnag fo'r cyfieithydd, anodd coelio y geill lwyddo i gynnig cyfieithiad cywir a chyflawn, oherwydd ymddengys nad cyfieithiad fel y cyfryw yw'r naill o'r llall, eithr yn hytrach math hollol wahanol o Theistiaeth. Nid unrhyw QeórT]s ag o &€OS.