GWERINIAETH. Hywel D. Lewis. Argraffdy'r Methodistiaid Calfinaidd. Tt. 128. 2/6. Llyfr byr ar bwnc mawr yw hwn, byrrach gryn dipyn nag y dymunai'r awdur iddo fod. Ond gan ein bod yn gorfod byw dan ormes rhyfel cystal inni ddiolch am gymaint â hyn ar bwnc a ddylai fod yn agos iawn at galon pawb ohonom yn y dyddiau adfydus hyn. Y mae llawer o ddiddordeb mewn pynciau gwleidyddol yng Nghymru ond ychydig iawn o lyfrau Cymraeg a geir yn trafod egwyddorion gwleidyddol. Y mae hyn yn ychwanegu at ein diolchgarwch i Mr. Lewis am ei lyfr. Gan ei fod wedi gorfod cwtogi cymaint ar yr ymdriniaeth oblegid diffyg gofod, cafodd gryn drafferth i rwyfo rhwng dwy graig, sef bod yn rhy haniaethol i'r newyddian ac yn rhy gwta i'r cyfarwydd. Y mae wedi llwyddo'n bur ganmoladwy yn yr amgylchiadau. Cyn troi at gynnwys y llyfr hwyrach y dylid crybwyll bod nifer o wallau argraffu a chystrawen yma ac acw ond nid ydynt yn rhwystr mawr i neges y llyfr oddieithr bod printio omedd yn lIe oddef (td. 110) yn tueddu i dywyllu'r ystyr mewn un man. Ar y llaw arall y mae'r awdur i'w ganmol am drefnu lle i fynegai ar waethaf prinder gofod. Rhannwyd y mater yn chwe phennod, a cheir mewn atodiad nodiadau ar ysgrifenwyr a mudiadau gwleidyddol y dylai'r darllen- ydd holi amdanynt mewn gweithiau eraill. Er mwyn arwain i mewn i'r ymdriniaeth cais yr awdur benderfynu beth yw natur a therfynau awdurdod y wladwriaeth, pwnc digon dyrys fel y gwyr pawb. Wedi pwysleisio, fel y dylid, gymhlethdod ein bywyd cymdeithasol heddiw gesyd yr awdur ddwy ystyriaeth bwysig ger ein bron (1) "Mae'r pwysigrwydd o gydnabod un awdurdod canolog a gyfuna ein holl ddiddordebau yn amlycach nag erioed." (2) Bydd yn rhaid i lywodraeth lwyddiannus ei chyfyngu ei hun i weithrediadau o ansawdd gyffredinol iawn." Amcan y cyntaf yw sicrhau trefn a hwylusdod i'r gymdeithas gyfan amcan yr ail yw sicrhau rhyddid digonol ac effeithiolrwydd i gymdeithasau llai ac i'r dyn unigol y tu mewn i'r wladwriaeth. Y mae'r ddwy egwyddor yn ddigon clir ac argyhoeddiadol o saf- bwynt damcaniaethol ond y mae croestyniad yn dueddol o'i amlygu ei hun pan geisir eu gosod mewn gweithrediad. Nid peth hawdd mewn ymarferiad yw cysoni rhyddid a threfn neu ryddid ac awdur- dod a chan mai crefft yn hytrach na gwyddor yw gwleidyddiaeth y mae digon o waith ar law ein llywiawdwyr pan elwir arnynt i drafod y broblem o ganoli ac o ddatganoli awdurdod. Yna eir ymlaen mewn dwy bennod bwysig i drafod ffaeleddau a rhagoriaethau gweriniaeth gyda gonestrwydd a phwyll sy'n nod- weddiadol iawn o feddwl yr awdur. Y mae ei barodrwydd i feirn- iadu gweriniaeth yn peri bod ei amddiffyniad ohoni yn gwneud dyfnach argraff ar feddwl y darllenydd. Pan gyferbyniwn Werin- iaeth a Thotalitariaeth, fel y gorfydd i bawb ohonom wneud heddiw,