Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

odd hyn y dyb fod yr unigolyn yn gyfrifol am bob peth ym mywyd ei gymdeithas, ac i'r gwrthwyneb, er bod rhai o'r Idealwyr amlycaf, fel Green a Bradley, yn petruso cydnabod hynny. (2) Mewn rhai athrawiaethau cymdeithasol di- weddar rhoddir lle amlwg i'r Jintai. Doeth yw hyn. Dylai gweriniaeth wneud mwy o gyfrif o gymdeithasau fel undebau llafur, sefydliadau addysgol, ac eglwysi. Daethpwyd, hefyd, i ystyried amrywiol gymdeithasau yn gyfrifol, mewn ystyr helaethach, yng ngolwg y gyfraith. Dyfais hwylus yw hyn ac nid egwyddor foesol, fel y cydnebydd y Ddamcaniaeth Ddyfais a sylfaenwyd ar y Gyfraith Rufeinig. Ond hawdd cymysgu safbwynt y gyfraith a moes, a chydweithreda hynny â'r sylw a roddir yn gyffredinol i'r fintai, i roddi ystyr fwy sylweddol i'r sôn am bersonoliaeth gorfforaethol'. Tybir fod personoliaeth felly'n ffaith ac nid ffug hwylus, a phrio- dolir iddi gyfrifoldeb moesoll. (3) Mae rhai o'r datblygiadau mwyaf eu dylanwad mewn blynyddoedd diweddar, fel y radio, mas-gynhyrchu, chwaraeon proffesyddol etc., yn tueddu i fychanu'r unigolyn. Manteisir ar hyn gan fudiadau a apelia fwy i'r teimlad na'r deall, a dyrchefir y genedl neu'r dosbarth ar draul yr unigolyn. Priodolir, gan hynny, i ddynion yn gyffredinol rinweddau a ffaeleddau eu cenedl. Ystyrir yn deg erlid yr Iddewon i gyd am rywbeth a wnaeth ychydig ohonynt, yn union fel yr erlidid y bobl anffortunus yma yn y Canol Oesau am i'w hynafiaid groeshoelio Crist. Diau fod gweddau eraill i'r mudiadau hyn, ond golygant, yn un peth, adfer y gred mewn cyd-gyfrifoldeb llythrennol. (4) Meithrinir yr un agwedd yn yr esboniad a ddyry rhai athrawiaethau diwinyddol tra dylanwadol, ar bechod gwreiddiol a'r modd y cyfiawnheir dynion yng Nghrist. O ganlyniad i'r 'cwymp' — er nad yw yn eglur beth a olygir wrth y £ cwymp' — mae dynion wrth naturiaeth yn llygredig. A rhoddir cryn straen ar ddyfeisgarwch athraw- iaethus i gysoni hyn â'r ffaith fod gan y ffordd yr ymarwedda dyn rywbeth i'w wneud â'i foesoldeb, a bod rhai yn fwy moesol nag eraill. Ni cheisiaf drafod yr athrawiaethau hyn yma, ond byddaf yn eu trafod yn anuniongyrchol i'r diwedd. ^Gwel Corporate Personality, Frederick Hallis.