S0REN AABYE KIERKEGAARD (1813-1855) YN nechrau Speculations, ei unig lyfr, dywed y Sais ifanc disglair hwnnw, T. E. Hulme, gwr a laddwyd yn y Rhyfel Mawr Cyntaf, mai un o brif orchestion meddyliol y bed- waredd ganrif ar bymtheg oedd helaethu'r syniad o gyd- berthynas, a'i gymhwyso at bob dim. Mynnai ef mai angen mawr ein hoes ni yw ei gyfyngu i'w briod feysydd. Dan- gosodd Hulme fel y rhoid bri newydd ar y syniad gan ryw ychydig o feddylwyr amlwg i ddechrau, yna fel y daeth yn boblogaidd gan lawer trwy ddarganfyddiadau Darwin, ac yn y diwedd fel y dyrchafwyd i radd categori, a cheisio cynnwys y cwbl o'i fewn. Nid edrychir arno erbyn hyn, medd Hulme, yn unig fel egwyddor ar gyfer trefnu maes arbennig o wybodaeth, ond fel nodwedd gwbl angenrheidiol yn yr hyn oll sy'n bod. Pan na ellir yn hawdd ei gymhwyso at ryw ffaith arbennig, y duedd mwyach yw i amau'r ffaith, a thybio na ddichon bod unrhyw dor gwirioneddol ym myd natur. Y mae ymwrthod â phob naid neu fwlch ym myd natur, medd ef, yn ein rhwystro rhag gweled yn wrthrychol, ac yn ein cadw rhag gweled pethau fel y maent. Rhaid wrth y ddau syniad o gydberthynas ac amherthynas. Gan hynny, angen ein hoes ni yw peri i ddynion fedru edrych unwaith eto ar fwlch neu agendor heb arswydo. Prif genadwri'r meddyliwr hwn oedd bod gwahaniaethau cyfan gwbl i'w cydnabod. Bod gwir amherthynas, ac na ellir ei goresgyn trwy gyfrwng unrhyw ddilechdid na thrwy ddar- ganfyddiad gwyddonol. Olrheinia lawer o'r cymysgedd meddwl ym myd crefydd a moeseg i ddiffyg cydnabod hyn. Wrth gwrs y mae Hulme yn llawdrwm ar Idealaeth, ac yn priodoli i ddylanwad Hegel lawer o'r parodrwydd yn Ewrop y ganrif ddiwethaf i ystyried y bydysawd fel un gyfundrefn drwyddi-draw, a'r meddwl dynol yn ei allu i resymu fel cyfrwng cymwys i lwyr ddeall ei wead a'i wneuthuriad. Y mae hyn yn ein harwain at neges y meddyliwr yr ymdrinir â'i waith yn yr ysgrif hon, sef Kierkegaard. Ar