darddiad ein syniadau am sylwedd ac achosiaeth ac nad yw'r Athro Aaron wedi talu cymaint o sylw i'r rhain ag a haedda eu pwysigrwydd i athroniaeth gwybod. O dan ddylanwad Stilling- fleet daeth Locke bron iawn i ddal fod y syniad am sylwedd yn un a osodir gan y meddwl trwy raid deallol wrth ddehongli profiad synhwyrus. Sensible qualities' medd Locke, carry the sup- position of substance along with them, but not intromitted by the senses with them By carrying with them a supposition, I mean that sensible qualities imply a substratum to exist in.' Y mae mwy o flas Kant a'r wybodaeth a priori ar hyn, mi dybiaf, na dim a ellir ei alw yn empeiraeth a gellid dweud peth cyffelyb am yr adran yn y bennod ar Rym 11e dywed Locke, whatever change is observed, the mind must collect a power somewhere, able to make that change' — ymadrodd y gellir yn deg ei gymryd i ategu tarddiad cyfochrog, a'r un mor ddiempeiraidd, i'r syniad o achosiaeth. Ond pynciau dadl yw'r rhain oll, ac nid amheuaf nad oes gan yr Athro Aaron ateb digonol wrth law. Hyd yn oed pe nad argy- hoeddid fi gan ei atebiad, eto buaswn yn dal i ystyried y gyfrol hon fel un o'r astudiaethau gorau yn yr iaith Saesneg o athronydd unigol. C. A. CAMPBELL. (Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Ifor Williams). THE LOGICAL SYNTAX OF LANGUAGE. By RUDOLF CARNAP. London Kegan Paul. 1937. xvi + 352. 25s. MEWN adolygiad byr ni ellir disgwyl gwneud cyfiawnder â llyfr mor eithriadol werthfawr â hwn. Mae'n gyfraniad godidog i resymeg fathemategol, ac ni thâl i'r un myfyriwr mewn athroniaeth beidio ag ystyried yn ofalus yr hyn sy'n gynhenid yn ei ddysgeid- iaeth gyda golwg ar y safbwynt traddodiadol tuag at broblemau athronyddol. Y mae Carnap yn aelod blaenllaw o Gylch Vienna', a gynnwys, ynghyd â dosbarth Americanaidd (yn bennaf yn Harvard) a dos- barth Seisnig (yn bennaf yng Nghaergrawnt), yr hyn a adnabyddir heddiw fel y mudiad Positifyddiaeth Resymegol.' Yn ei arwedd Bositifyddol,' tardd y mudiad o Hume, Comte, J. S. Mill a Mach. Nodweddir ef gan ysbryd llwyr empeiraidd mewn athroniaeth a'r diddordeb pennaf mewn gwyddoniaeth a'r byd-ddarlun gwyddonol. Ynghlwm wrth hyn ceir tuedd wrthfetaffisegol, sy'n arwain yn y pen draw eithaf i wrthod holl osodiadau metaffisegol fel rhai di- ystyr. Yn ei arwedd Resymegol,' tardd y mudiad o waith y rhesymegwyr mathemategol, o Frege (athro Carnap) ymlaen. Ceir enghraifft o'r ochr hon i'r mudiad yn y pwyslais mai'r unig fethod