Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

the brittish lawes in latine Yn ei gatalog yn NLW. 9095 B, cyfeiria Vaughan at gopiau Lladin o'r Cyf- reithiau ddwywaith a gwyddys fod Peniarth 28 yn Hengwrt erbyn 1657 pan gopiwyd hi i Bibliotheca Academiae Luguduno-Batava, Col. Voss. Lat. Oct. 35, yn 61 Hywel Emanuel, The Latin Texts of the Welsh Laws, 98. Yr oedd y copi hwnnw yn nwylo Thomas Browne, canon yn y Capel Brenhinol yn Windsor erbyn 1662, ond ni wyddys sut napham yr aeth y copi o Hengwrt i'w feddiant ef. Tybed a oedd Browne yn adnabod Lloyd ac mai trwy hwnnw y cafodd afael ar y llawysgrif? your bookes from Esgeifioc Yr oedd John Jones wedi marw yn ystod gaeaf 1657-8 a chafodd Vaughan gryn drafferth i gael ei lawysgrifau o Ysgeifiog a Llundain fel y dengys drafft- iau o lythyrau oddi wrtho at Elizabeth Jones, gweddw John Jones a'i thad Peter Gruffydd, Caerwys. Y tebyg yw fod John Jones wedi cymynnu ei lawysgrifau i Vaughan yn gyfnewid am arian parod tra oedd byw, ond yr oedd ei weddw yn gyndyn iawn i ollwng ei gafael arnynt, gw. Nesta Lloyd art. cit., 17-19. Mr. Robert Owen YBC, Atodiad, 142; mab yng nghyfraith Robert Vaughan, a gwr Dolserrau. Yr oedd yn aelod o'r pwyllgor a drefnai drethi sir Feirionnydd o Fehefin 1657 ac o bosibl, yn flynhonnell rhywfaint o nawdd. Cyfeirir ato hefyd yn Uythyrau I a XVIII. Mr. Rich, Price. Awgryma T. Emrys Parry, Traethawd, 348, mai aelod o deulu Prys y Dre- newydd oedd hwn. XIII. Llythyr gwreiddiol yn Haw Lloyd. my lords concernes Edward Herbert, trydydd barwn Herbert o Chirbury oedd hwn; gw. y rhag- ymadrodd am gysylltiad Lloyd a'r Herbertiaid. Mr. John Midleton Yn 61 y cyfeiriad 'grocer at the Starre on Fishstreete Hill' ydoedd ond gweith- redai fel bancer yn ogystal, fel cynifer eraill o'r teulu. gw. Gwyn Rhodri Thomas, Traethawd, passim. Cyfeirir ato fel ffynhonneU arian yn Uythyrau XIV, XV ac XVI. XIV. Llythyr gwreiddiol yn Uaw Lloyd. Sir Thomas Middleton, 1586-1667. YBC. 637; gw. hefyd Gwyn Rhodri Thomas, Traethawd, passim, a'r rhagym- adrodd uchod am gysylltiad Lloyd ag ef. The Refiner Cyfeirir at 'Refiner' yn llythyr XV yn ogystal, ond ni ddywedir pwy ydoedd. Mae'n amlwg fod Lloyd ei hun yn abl i wneud llawer o'r gwaith dadansoddol ei hun ond cyfeiria yn llythyr XVI at 'Say master of the Tower' ar gyfer gwaith manylach. The Grecian Cyfeirir ato eto yn Uythyrau XV ac XVI, ond gan na roir ei enw Uawn o gwbl nid wyf wedi medru ei olrhain. Mae'n amlwg ei fod yn arbrofwr a chanddo labordy i weithio ynddo, Ue'r oedd yn ymarfer crefft y fleryllydd a'r meddyg fel y dengys llythyr XV. Nid rhyfedd fod Lloyd gyda'i ddiddordeb mewn Hermetiaeth a'i gysylltiadau a Thomas Vaughan, yn adnabod rhywun fel hyn